Marwolaeth M4: Teyrnged teulu i Richard Pring, 34

  • Cyhoeddwyd
Richard PringFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Richard Pring wastad yn barod i helpu unrhyw un, yn ôl ei deulu

Mae teulu dyn 34 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4 nos Sadwrn wedi rhoi teyrnged iddo.

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru mai Richard Pring oedd enw'r dyn, a'i fod yn dod o Lanharri.

Mae Heddlu'r De yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd rhwng cyffordd 34 a 35 ar yr M4 o gwmpas 05:45 fore Sadwrn.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: "Fel teulu clós rydym wedi'n distrywio gyda'r golled enfawr yr ydym wedi ddioddef wrth golli Richard.

"Fydd ein bywydau byth yr un fath, ac ni fyddwn yn dymuno i'n bywydau i fod yr un fath eto.

"Roedd Richard yn fab, tad, dyweddi, brawd a ffrind.

"Roedd e'n bresenoldeb enfawr a oedd bob amser yn gwneud i chi chwerthin. Byddai'n helpu unrhyw un. Ond yn aml iawn, y rhai sy'n helpu eraill sydd fwyaf angen help eu hunain."

Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yr heddlu yn delio â'r digwyddiad ger cyffordd 35 yr M4, ym Mhencoed

Ychwanegodd y deyrnged: "Mae iechyd meddwl ymhlith dynion yn bwnc tabŵ. Mae'n cael ei esgeuluso a'i dan-werthfawrogi. Mae'n cael ei 'sgubo dan y carped. Plîs, os ydych chi neu unrhyw un y gwyddoch amdano angen help, ewch i chwilio amdano.

"Mae'r teulu'n dymuno diolch i bawb yn ein cymuned fechan, glós, am eu geiriau caredig a'u cefnogaeth ar yr adeg yma. Mae'n iawn i beidio bod yn iawn."

Dywedodd y Sarjant Huw O'Connell, o'r Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol, eu bod yn awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn teithio i'r naill gyfeiriad rhwng cyffordd 34 a 35 ar yr M4 rhwng 05:35 ac 05:50 fore Sadwrn, ac sydd heb gysylltu â'r heddlu hyd yma.

"Rydym eisiau clywed yn arbennig gan unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal ac sydd â lluniau dashcam," meddai.

Pynciau cysylltiedig