12 o breswylwyr cartref gofal ar Ynys Môn wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cartref Fairways Newydd LlanfairpwllFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cartref Fairways Newydd wedi ei leoli oddi ar cyffordd Llanfairpwll o ffordd yr A55, ger Pont Britannia

Mae 12 o breswylwyr wedi marw mewn un cartref gofal ar Ynys Môn - a hynny dros gyfnod o ychydig wythnosau.

Yn ôl rheolwr Canolfan Nyrsio a Gofal Dementia Fairways Newydd yn Llanfairpwll, yr amrywiad newydd o Covid sy'n debygol o fod wedi bod yn gyfrifol am 36 o drigolion yn y cartref yn profi'n bositif ynghyd â 54 aelod o staff.

Cafodd Tîm Rheoli Digwyddiadau aml-asiantaethol ei sefydlu yn dilyn yr achos, gan gynnwys swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae Jodie Jones, y rheolwraig, wedi disgrifio'r achosion yn y cartref fel "profiad gwaethaf ei gyrfa".

Preswylwyr 'fel teulu'

Dywedodd ei bod hi'n anodd dweud sut ddaeth y feirws i mewn i'r cartref, a'u bod nhw wedi rhoi mesurau llym yn eu lle.

Yn ogystal â hynny roedd yr holl breswylwyr wedi cael eu brechlyn cyntaf yn ddiweddar, meddai.

"Mae'n dorcalonnus colli cymaint o drigolion," meddai Ms Jones.

"Roedd pob un ohonyn nhw'n boblogaidd iawn ymhlith staff ac rydyn ni yn ofnadwy o drist ein bod ni wedi colli pob un ohonyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Mandy Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jodie Jones wedi bod yn rheoli cartref Fairways Newydd ers 2017

"Mae'r preswylwyr efo ni am fisoedd a blynyddoedd," meddai, "mae bond yn cael ei adeiladu ac mae'r preswylwyr yn dod yn debyg i deulu.

"Felly, pan fydd unrhyw breswylydd yn marw mae'n taro'r staff yn galed.

"Mae'n eu cynhyrfu wrth gerdded heibio'r ystafelloedd gwely a sylweddoli nad ydy preswylydd efo ni mwyach.

"Heb os, dyma'r profiad gwaethaf a gefais erioed yn fy ngyrfa," meddai.

Canfyddiad adroddiad adolygu

Mae'r cartref, sydd wedi'i leoli ger Pont Britannia, yn un o bum cyfleuster gofal sy'n cael ei redeg gan gwmni Fairways ledled gogledd Cymru.

Prynodd y cwmni'r cartref yn 2017, ar adeg pan oedd ar fin cau.

Dywedodd Mark Bailey, perchennog Fairways: "Rydw i wedi gweithio mewn gofal ers 33 mlynedd a dyma'r profiad gwaethaf i mi ei gael.

"Rydyn ni wedi ein tristáu bod cymaint o drigolion poblogaidd wedi marw.

"Hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf â theuluoedd ein preswylwyr. Mae'r staff yn meithrin perthynas agos â'r preswylwyr, a dwi'n gw'bod pa mor ofidus fu hyn i bawb yn y cartref.

"Mae llawer iawn o waith wedi digwydd i geisio atal unrhyw fath o achosion yn y cartref ac mae hyn wedi'i adlewyrchu yng nghanfyddiadau'r adroddiadau arolygu.

"Rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto."

Ddechrau mis Chwefror dywedodd arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi, bod ffigyrau Covid-19 ar yr ynys yn "frawychus" ac yn "achos pryder".

Roedd nifer yr achosion wedi neidio o'r niferoedd isaf yng Nghymru i fod a 440 achos ym mis Ionawr.

Wythnos diwethaf fe gyhoeddodd y Cyngor na fydd ysgolion yn agor i'r cyfnod sylfaen yno wedi hanner tymor, oherwydd cyfraddau uchel o coronafeirws.