Y Bencampwriaeth: Luton 0-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Parhau mae rhediad lwyddiannus Caerdydd ers i Mick McCarthy gymryd yr awenau fel rheolwr.
Sicrhaodd yr Adar Gleision fuddugoliaeth gampus oddi cartref yn erbyn Luton - eu chweched gêm heb golli, a'r pedwaredd buddugoliaeth yn olynol.
Mae'r fuddugoliaeth yn eu codi i seithfed ac o fewn tri phwynt i'r safleoedd ail-gyfle.
Di-sgôr oedd hi ar yr hanner, er i'r ddau dîm gael cyfleon i sgorio.
Wilson yn rhwydo eto
Asgellwr Cymru, Harry Wilson, roddodd y gleision ar y blaen wedi 53 munud, gydag ergyd droed chwith i gornel chwith y rhwyd o du allan i'r cwrt cosbi, diolch i bas gyda'i ben gan Aden Flint.
Bedwar munud yn ddiweddarach roedd hi'n 0-2, a gôl Will Vaulks yn ddrych berffaith o gynnig Wilson - cic o du allan i'r cwrt cosbi, gyda'i droed dde ac i gornel dde y rhwyd.
Mae ystadegau'r gêm yn dangos pa mor effeithiol ydi Caerdydd y dyddiau yma: Cafodd Luton 64% o'r meddiant a saith ergyd at y gôl, gyda dim ond dwy ar y targed. O'i gymharu, llwyddodd Caerdydd i gael 10 ergyd am gôl, gyda i saith o'r rheiny ar y targed.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2021