Disgyblion Cymru'n derbyn llai o arian i adfer ar ôl Covid
- Cyhoeddwyd

Mae'r arian sy'n cael ei roi i ddisgyblion Cymru er mwyn eu cynorthwyo i 'ddal fyny' wedi Covid yn "sylweddol is" na rhai rhannau eraill o'r DU - ond mae mwy ohono'n cael ei wario ar ddisgyblion tlotach, yn ôl adroddiad newydd.
Mae dadansoddiad yr Education Policy Institute yn dweud bod £88 i bob disgybl wedi cael ei glustnodi gan Lywodraeth Cymru - llai na hanner y £200 i bob disgybl yn Yr Alban.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod presenoldeb yn ysgolion Cymru yn ystod tymor yr hydref yn is na gweddill y DU, gan ddisgyn i 68% erbyn canol Rhagfyr.
Dywedodd Plaid Cymru bod cynlluniau'r llywodraeth "ar ei hôl hi" wrth geisio cynorthwyo disgyblion i wneud yn iawn am yr amser a gollwyd o'r ysgol.
Cafodd cronfa £29m er mwyn talu am yr hyn sy'n cyfateb i 900 o staff dysgu ychwanegol ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf - wedi'i thargedu at ddisgyblion difreintiedig a'r rhai mewn blynyddoedd arholiadau pwysig.
Ynghyd â chyllid ychwanegol ar gyfer disgyblion ôl-16 oed, mae'r EPI yn amcangyfrif bod tua £40m wedi ei glustnodi i ddisgyblion Cymru.
Y ffigwr yn Yr Alban yw £140m - £200 i bob disgybl - ac yn Lloegr £1.2bn, neu £174 i bob disgybl.
'Mwy i'r difreintiedig'
Ond dywedodd yr adroddiad er bod y cyllid yn "sylweddol is" yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, roedd tua hanner wedi ei dargedu at ddisgyblion mwy difreintiedig, sy'n uwch na Lloegr a'r Alban.
Ym marn yr EPI fe ddylai'r pedair gwlad fuddsoddi mwy er mwyn datrys maint yr heriau, a dywed bod y cynlluniau presennol yn cynnig "cyfran o'r gefnogaeth sydd ei angen i ddelio gyda'r golled anferthol o amser addysgu".
Roedd presenoldeb yn yr ysgol yn is yng Nghymru (yn aml yn llai na 85%) dros dymor cyfan, ac roedd y ffigwr yn is mewn ardaloedd difreintiedig. Yn Yr Alban, roedd y ffigwr yn 90-95%.

Mae'r adroddiad yn nodi bod presenoldeb yn ysgolion Cymru yn ystod tymor yr hydref yn is na gweddill y DU
Dywedodd Plaid Cymru bod presenoldeb is ac anawsterau cael mynediad i addysg ar-lein yn golygu bod disgyblion tlotach yn wynebu "anfantais ddwbl".
Dywedodd eu llefarydd ar addysg, Sian Gwenllian AS, bod angen mwy o eglurder am sut y cafodd yr arian ar gyfer staff ychwanegol ei wario.
"Rhaid i'r ffocws fod ar fedru darparu cymaint o addysgu wyneb-yn-wyneb ag sy'n bosibl, ac wedi'i dargedu at blant sydd wedi colli'r mwya' o'u haddysg, a'r unig ffordd o wneud hynny yw ymgyrch recriwtio anferth," meddai.
'Sgandal'
Mae'r adroddiad yn "dystiolaeth o'r llywodraeth Lafur yn siomi disgyblion", yn ôl llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies.
"Mae wedi dod i'r amlwg bod y £29m oedd wedi ei addo i ddisgyblion ddal i fyny wedi ei danwario, gyda £12m nawr yn cael ei symud i'r flwyddyn ariannol nesaf.
"Eto mae gyda ni elusennau'n dal i redeg o gwmpas yn chwilio am offer Technoleg Gwybodaeth sbâr ar gyfer disgyblion ac Aelodau Senedd yn dadlau droeon bod teuluoedd angen cefnogaeth i dalu am ddata neu fand eang gwell er mwyn addysgu o adref.
"Os yw ffigyrau'r EPI yn gywir mae hwn wir yn sgandal.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae galluogi plant a phobl ifanc i ddychwelyd i addysg wyneb-yn-wyneb yn parhau'n flaenoriaeth, ac rydym yn deall fod yr amharu ar addysg dros y flwyddyn ddiwethaf wedi golygu mwy na dim ond colli cynnwys i ddysgwyr.
"Ry'n ni wedi buddsoddi £29m yn ein rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau i ddysgwyr gan arwain at recriwtio mwy na 1,000 o athrawon a staff cefnogol i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i'r rhai sydd wedi methu addysg oherwydd y pandemig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2021