'Addysg disgyblion i ddioddef' heb fwy o dechnoleg
- Cyhoeddwyd
Ar ddechrau hanner tymor mae 'na rybudd y bydd addysg disgyblion yn dioddef os nad oes gan bob plentyn yng Nghymru'r dechnoleg gywir i ddysgu ar-lein.
Bydd rhai o'r disgyblion ifancaf yn dychwelyd i'r dosbarth yr wythnos nesaf gyda dysgu o adref yn parhau i'r gweddill.
"Mae lot o deuluoedd 'da ni lle mae dim ond un cyfrifiadur neu iPad neu mobile sydd gyda'r teulu i gyd," meddai Bethan Jones, sy'n Bennaeth Cynorthwyol Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin.
Fis Ebrill y llynedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru glustnodi £3m ar gyfer gliniaduron a dyfeisiadau wi-fi, ond honnir fod nifer o ddisgyblion, yn enwedig o gefndiroedd difreintiedig, yn dal i aros.
Yn mis Ionawr, dywedodd yr elusen Child Poverty Action Group eu bod yn poeni bod rhai ysgolion dim ond yn cynnig help i blant oedd yn cael cinio ysgol am ddim.
"Oedd un yn mynd mas i bob teulu, ond dyw hynna ddim yn ymateb i'r broblem sy' mas 'na" meddai Bethan Jones.
"Ma plant yn ffaelu dysgu os ma un cyfrifiadur a phedwar ohonyn nhw. So fe'n mynd i weithio.
"Mae'r gwersi yn 'live' ar-lein, so os nag yw'r plant yna ar amser, ma nhw'n mynd i golli mas."
Mae Llywodraeth Cymru wedi dosbarthu 128,000 dyfais i awdurdodau lleol gyda 54,000 yn rhagor i ddod dros y misoedd nesaf.
Mae Sophie a Lucie, dwy chwaer sy'n ddisgyblion yn Ysgol y Frenhines Elisabeth, wedi ei chael hi'n anodd i ymdopi â gwersi ar-lein.
"Ddechrau hyn fe wnaeth laptop fi grashio a dyna'r unig un oedd yn y tŷ, a bu'n rhaid i ni weithio ar un iPad," meddai Sophie.
"Roedd 'na lot o glasho o wersi a phan chi'n gneud Lefel-A, ac ma'ch chwaer yn gneud TGAU, os chi'n colli un wers, mae hynna'n gallu bod yn lot o waith dala lan," meddai.
Diolch i'r elusen Business2Schools fe gafodd y chwiorydd liniadur oedd wedi ei roi gan gwmni o Sir Benfro.
"Heb y laptop fydden ni ar ei hôl hi a'n graddau ni, o bosib, yn diodde' oherwydd hynny," meddai Lucie.
"Nid ni yw'r unig teulu i gael y profiad yma, mae ganddoch chi frodyr a chwiorydd mewn gwahanol ddosbarthiadau, mewn gwahanol flynyddoedd, ac weithiau ysgolion gwahanol," meddai Sophie.
Mae'r BBC wedi cyfrannu miloedd o ddyfeisiau mi-fi i helpu disgyblion sydd heb gyswllt band eang i fynd ar-lein.
"Mae 'na alw mawr," meddai Nigel Cooke, Pennaeth Cymru i Business2Schools.
"Mae cwmnïau a busnesau wedi bod yn hael iawn, ac ry'n ni wedi gallu ail-ddosbarthu lot fawr o offer.
"Ond mae'n rhaid i ysgolion gofrestru gyda ni ar ein gwefan ac fe fydden ni'n gallu rhoi offer fel gliniaduron a thabledi iddyn nhw wedyn", meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd10 Awst 2020
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2021