'Pwysig rhoi clwy'r traed a'r genau yn ei gyd-destun'
- Cyhoeddwyd
Ugain mlynedd ers clwy'r traed a'r genau mae gohebydd BBC Cymru, Iola Wyn, wedi bod yn hel atgofion gyda'r rhai oedd yng nghanol berw'r argyfwng.
Bob tro, wrth ymweld â Bannau Brycheiniog, mae'r cof yn dychwelyd i 2001.
Yn union fel y cyfnod presennol, roedd y dioddefaint yn amlwg a chyfrifoldeb ar newyddiadurwyr i adrodd y stori.
Ond yn bwysicach na dim, er mwyn adrodd y stori honno, roedd angen gweithredu'n gwbl gyfrifol er mwyn atal yr haint rhag ymledu ymhellach.
Cafodd deugain mil o gyrff anifeiliaid eu llosgi ar Fynydd Epynt, gydag un nod digyfaddawd, sef dileu clwy'r traed a'r genau.
Ond roedd gwrthwynebiad chwyrn yn lleol i gludo cyrff anifeiliaid heintus i'r llecyn tawel hwn.
Bu sawl protest heddychlon, a gwrthdaro ar un adeg rhwng protestwyr a'r heddlu.
Epynt - 'cornelyn bach, diarffordd o ddim sylwedd'
"O'dd hi'n rhyfedd o fyd - o'dd hi'n gas," meddai Glyn Powell o Bontsenni, a oedd yn Ddirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru ar y pryd. Ymgyrchodd yn frwd yn erbyn y cynllun.
Wrth hel atgofion gydag e ar garreg ei ddrws ym Mhontsenni, gyda phosteri'r cyfnod yn ei ddwylo, mae'n amlwg fod ei deimladau cyn gryfed ag erioed.
"O'dd pob asiantaeth wedi cefnogi'r claddu a'r llosgi ynte. Mi gafwyd yr hen goelcerth enfawr, yr amlosgfa a'r claddu mawr.
"Fe gymrodd hi wyth wythnos i symud y celanedd oddi yno, 30 o lorïau bob dydd. A'r ffaith bo' nhw'n defnyddio'r Epynt ynte, fel tase fe'n rhyw gornelyn bach, diarffordd, o ddim sylwedd i neb."
Roedd dyddiadur llywydd Undeb NFU Cymru yn llawn dop. Naw ymweliad â Downing Street mewn 23 o ddiwrnode ac un nod, sef sicrhau iawndal i ffermwyr defaid.
"Dechreuodd pethe ar y bore dydd Mawrth yn Llunden. Gynigion nhw £23 y ddafad i fi a wedes i - forget it," meddai Hugh Richards.
"Erbyn bore Mercher o'n nhw'n cynnig £46 y ddafad. Forget it, wedes i. Erbyn i ni fynd lan ar y dydd Iau, da'th Carwyn Jones gyda fi i No. 10, a daethon ni mas o 'na da £92 y ddafad - pedair gwaith gwmint ag o'n nhw'n cynnig ar y dechre! Oherwydd o'n nhw mewn twll - o'n ni i gyd mewn twll, ond o'dd raid ffindo'r ffordd ore ymla'n."
'Haws rheoli anifeiliaid na phobl'
Ar yr hewl honno hefyd, roedd swyddogion milfeddygol a oedd yn cynghori Llywodraeth Cymru.
Cynhaliodd David Thomas ddegau o gyfweliadau ar raglenni newyddion.
Mae e'n parhau yn filfeddyg, yn profi TB neu'r diciâu mewn gwartheg.
"Amser diflas o'dd e. O'dd neb yn mwynhau gwneud y jobyn. Ond o'dd rhaid gneud e mor broffesiynol â phosib. Un peth am traed a'r genau - o'n ni wedi gweld y clefyd o'r blaen.
"O'n i'n deall y feirws ac o'dd profion i ga'l. Ond mae'n haws rheoli symudiadau anifeiliaid na phobl, na be fydde'n i'n dweud."
Nid yn annhebyg i'r pandemig presennol, cafodd cefn gwlad ei barlysu, y maes twristiaeth yn dioddef, digwyddiadau yn cael eu gohirio a llwybrau cerdded ar gau.
'Colli pobl tro 'ma - dim anifail'
Ond mae'r cyfnod presennol yn llawer mwy bregus, yn ôl y ffermwr o Bontsenni, Gethin Havard.
"Adeg y clwy - o'ch chi'n gallu cwrdd â bobol, ca'l sgwrs â bobol, mynd i'r capel neu eglwys. Dwi ddim di bod i'r mart ers misoedd lawer.
"Oce - o'dd y llwybre cyhoeddus ar gau, ond o'dd hynny ddim yn ymyrryd â bywyd bob dydd pobol. Ma' hwn yn hollol wahanol.
"Mae lot o bobl yn dioddef nawr heb neb yn gwybod - dim ond post sy'n dod drwy'r drws."
Ond mae Gethin Havard yn pwysleisio taw un clefyd oedd clwy'r traed a'r genau.
"'Den ni wedi symud ymlaen, achos cofia, i'r cyhoedd, y clwy' odd un o'r pethe gwaetha i daro'r diwydiant hwn. Ers i fi adael ysgol, gaethon ni Brucellosis - o'dd gwartheg o'dd newydd lloia yn cael eu difa achos hwnnw.
"Gaethon ni BSE - nawr i mi o'dd hwnna llawer gwaeth, achos o'dd e'n hollol newydd, ac o'n i ddim yn gwbod a o'dd e'n lladd pobol, barodd hwnnw am dros ddegawd. Wedyn y Tafod Glas. Ma ryw un peth ar ôl y llall.
"Ond y diciâu yw'r peth gwaetha cofia di. Gollon ni wartheg yr wythnos ddiwetha, - gwartheg magu yn eu prime, a ti'n gorfod byw 'da hwnna. Odd y clwy' fel torri coes, ti'n torri dy goes, ac os roi di amser iddo fe ti'n datrys y broblem - ti'n gwella a ti'n symud mla'n.
"Ond gyda'r diciâu, mae fel canser sy'n gwaethygu bob dydd. So yn feddyliol, ma hwnna llawer llawer gwaeth ac felly ma lot di rhoi'r gore i gadw gwartheg."
Trechwyd clwy'r traed a'r genau yn 2001. Mae sawl brwydr arall debyg eto i'w hennill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2021