Cyfrifiad 2021: 'Angen mwy o gymorth ar gyn-filwyr'
- Cyhoeddwyd
Mae gwella bywydau cyn-aelodau o'r lluoedd arfog yn mynd i gymryd mwy na'u hadnabod drwy'r Cyfrifiad, medd rhai cyn-filwyr yng Nghymru.
Am y tro cyntaf bydd Cyfrifiad 2021 yn gofyn i drigolion y DU a ydyn nhw'n gyn-aelodau o'r lluoedd, yn dilyn ymgyrch gan elusennau milwrol.
Mae rhai wedi dweud wrth BBC Cymru na chawson nhw unrhyw gefnogaeth wrth ddychwelyd i fywyd bob dydd ar ôl gadael y lluoedd.
Dywedodd Llywodraeth y DU fod y rhan fwyaf yn dychwelyd i fywyd bob dydd yn llwyddiannus.
Cafodd gais i'r Weinyddiaeth Amddiffyn am filwr oedd wedi dychwelyd i fywyd bob dydd a chael cefnogaeth yn llwyddiannus ei wneud ond dywedon nhw nad oedd yn bosib gwneud hyn o fewn amser cyhoeddiad yr erthygl.
Bydd cwestiwn newydd ar y Cyfrifiad, a fydd yn digwydd dan oruchwyliaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar 21 Mawrth, yn gofyn: "A ydych chi wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol?"
Dywedodd yr ONS y byddai'r wybodaeth yn gymorth i gynghorau a llywodraethau i weithredu'r ymrwymiadau o dan y Cyfamod Lluoedd Arfog - addewid i sicrhau fod y rhai sydd yn, neu wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU a'u teuluoedd ddim o dan anfantais.
'Teimlo'n ddiwerth'
Dywedodd Nigel Harvey fod ei fywyd wedi mynd allan o reolaeth wedi iddo gwblhau 10 mlynedd o wasanaeth gyda'r Ffiwsilwyr Cymreig yn 2000.
Roedd Mr Harvey, 48 oed o Ogledd Cornelly ger Pen-y-bont ar Ogwr, yn diodde' gyda'i iechyd meddwl ar ôl gweithio yn Bosnia.
"Chwalodd fy mhriodas i ddechrau," meddai. "Wedyn fues i'n yfed yn drwm... gwneud pethau gwirion am arian, fel casglu dyledion, jyst i gael dau pen llinyn ynghyd, galw yng nghartrefi pobl a'u bygwth nhw.
"Doeddwn i ddim yn delio gyda phethau fel rhent, nwy, trydan ac ati - yn y fyddin mae popeth yn cael ei wneud drostoch chi."
Dywedodd fod y trawma a ddioddefodd yn y lluoedd wedi ei gwneud yn anodd i ddychwelyd i fywyd bob dydd.
"Fe wnaeth rhywun ddal gwn at fy mhen... fe weles i gyrff... cafodd fy ffrind gorau ei saethu... ond yna pan ddaethon ni nôl i Brize Norton fe ddywedon nhw 'hwyl fawr' ac roedd dal gen i fwledi yn fy mhoced.
"Doedd dim cwrs cyn gadael, doedd dim byd... naethon nhw ddim gofalu amdana i o gwbl."
Doedd ganddo nunlle i fyw ac fe wnaeth ef, ei wraig a'u dau blentyn fyw mewn car am ddeufis cyn iddo "greu stŵr" mewn swyddfa cyngor a chael rhywle gan y cyngor i fyw.
Ond yna aeth yn ddigartref pan chwalodd ei briodas. Wedi 18 mis, dywedodd ei fod wedi ystyried lladd ei hun.
Ond yna fe wnaeth ffrind roi rhif iddo ar gyfer elusen, ac fe arweiniodd hynny ato'n cael rhywle i fyw, cefnogaeth gyda'i iechyd meddwl a chymorth meddygol.
Er hynny, mae'n bryderus am eraill sydd wedi gadael y lluoedd.
"Dydyn nhw ddim yn gwybod lle i droi, a dyna pryd maen nhw'n troi at alcohol, cyffuriau, trais neu beth bynnag.
"Mae bod yn y fyddin fel teulu, ond pan ydych chi'n gadael, does dim teulu ar ôl... chi'n gadael ac yn teimlo bod dim byd - ry'ch chi'n teimlo'n ddiwerth, ar goll."
Bu'n rhaid i Naomi Anderson, 29 oed o Gaerdydd, adael yr Awyrlu Brenhinol yn 2012 am resymau meddygol a iechyd meddwl.
Symudodd i gartre ei rhieni, ond roedd yn orlawn.
"Es i'n feichiog, roedd fy chwaer yn disgwyl hefyd ac roedd pedwar ohonom ni'n rhannu un 'stafell wely," meddai.
"Ro'n i'n chwilio am wasanaethau ond yn cael dim lwc.
"Fe ddywedon nhw (Yr Awyrlu) y byddwn i'n cael cymaint o help, ond y diwrnod y gadewais i, fe ges i 24 awr i adael fy uned a mynd... ges i ddim help o gwbl yn y broses, nac ers hynny chwaith."
Yn y diwedd fe gafodd gymorth gan elusen i gael cartref ei hun, a chymorth i wneud cais i wneud gradd gyda'r bwriad o fod yn barafeddyg. Dechreuodd ar ei chwrs ym mis Ionawr.
Ychwanegodd: "Mae fy mhrofiad i'n dangos gwir liwiau'r lluoedd... maen nhw'n addo hyn i gyd i chi, ond pan y'ch chi'n gadael, chi'n cael dim byd."
Cwestiwn pwysig
Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen fu'n ymgyrchu am gael y cwestiwn newydd yn y cyfrifiad ei fod yn gobeithio y bydd yn taclo'r problemau "dybryd" sy'n wynebu pobl sy'n gadael y lluoedd arfog.
Meddai: "Wrth wneud cais am gyllid, maen nhw wastad yn cwyno am 'ddiffyg data' - mae'n broblem barhaus ac yn arwain at bobl yn disgyn drwy'r rhwyd, felly rwy'n canmol y llywodraeth am roi'r cwestiwn yn y Cyfrifiad.
"Rwy'n credu ei fod yn bwysig yn genedlaethol oherwydd bydd y llywodraeth yn medru clustnodi arian... mae'n fater o bartneriaethau a chael pawb i wireddu eu dyletswyddau cymdeithasol yn unol gyda'r cyfamod milwrol."
Dywedodd llefarydd ar ran yr ONS: "Un o'r heriau mwyaf wrth ateb unrhyw alw yw gwybod yn union ble mae'r angen yn y lle cyntaf.
"Bydd y cwestiwn newydd yn rhoi dealltwriaeth well o'r niferoedd, lleoliadau ac oedrannau ein cyn-filwyr, ac yn gymorth i'r llywodraeth, GIG a'r sector elusennol i dargedu adnoddau lle mae'r angen go iawn.
"Mae data'r Cyfrifiad yn ddienw, a bydd dim modd adnabod unrhyw berson. Bydd cofnodion personol yn cael eu cloi am 100 mlynedd, a'u cadw'n ddiogel i genedlaethau'r dyfodol."
'Gwneud mwy nag erioed o'r blaen' i gefnogi cyn-filwyr
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae'r rhan fwyaf o filwyr sy'n gadael y fyddin yn dychwelyd i fywyd bob dydd yn llwyddiannus, ond rydyn ni wedi ymrwymo i wneud mwy nag erioed o'r blaen i sicrhau bod hyd yn oed mwy yn dychwelyd yn llwyddiannus.
"Bydd data'r cyfrifiad o gyn-filwyr yn helpu ni i ddeall anghenion cymuned y cyn-filwyr ac i ddarparu nhw gyda mwy o gefnogaeth effeithiol."
Dywedodd am fwy na 20 mlynedd mae wedi cynnig cefnogaeth cyflogaeth trwy'r Bartneriaeth Newid Gyrfa yn ogystal â chefnogaeth deilwng i bobl sy'n wynebu heriau fel dod o hyd i gartref neu heriau ariannol trwy wasanaethau pontio amddiffyn.
"Yn ogystal, bydd Deddf y Lluoedd Arfog yn gosod Cyfamod y Lluoedd Arfog mewn i'r gyfraith trwy gyflwyno dyletswydd gyfreithiol i gyrff cyhoeddus priodol y DU, yn cynnwys y rheiny sydd yng Nghymru, i ystyried egwyddorion y Cyfamod. Bydd hyn yn helpu sicrhau triniaeth deg a gwasanaethau cyhoeddus gwell i'r gymuned filwrol," meddai.
Mae gwasanaethau newid ac ailgartrefu ar gyfer y lluoedd arfog yn dod o dan gyfrifoldeb y Weinyddiaeth Amddiffyn, ond dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn gweithio'n agos gyda gweinidogion y DU.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru roedd wedi darparu "ystod eang o wasanaethau a chefnogaeth" yn cynnwys GIG Cymru i Gyn-filwyr a swyddogion cyswllt i'r lluoedd arfog.
Dywedodd ei fod hefyd yn cefnogi elusennau i ymladd yn erbyn unigrwydd ac ynysiad cymdeithasol a'n cefnogi cyflogwyr i gyflogi cyn-filwyr.