Y Gynghrair Genedlaethol: Aldershot 3-0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Collodd Wrecsam ei gêm yn erbyn Aldershot 3-0, yn dod a'i statws fel tîm a oedd heb gael ei guro yn y Gynghrair Genedlaethol am y chwe gêm ddiwethaf i ben.
Methodd golwr Wrecsam Christian Dibble i atal Jon Nouble rhag sgorio'r gôl agoriadol ar ôl 26 munud.
Sgoriodd Nouble eto yn gynnar yn yr ail hanner, a chwaraeodd rhan mewn trydydd gôl Aldershot hefyd, yn pasio'r bêl i Jermaine Anderson aeth ymlaen i sgorio 68 munud mewn i'r gêm.
Mae'r fuddugoliaeth yn meddwl bod Aldershot yn symud lan i'r 12fed safle yn y gynghrair tra bod Wrecsam yn symud lawr i seithfed lle.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021