Arestio dau yn dilyn tân mewn tŷ ym Miwmares
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson - dyn a dynes - wedi cael eu harestio yn dilyn tân mewn tŷ ym Miwmares ddydd Sadwrn.
Fe gyrhaeddodd criwiau tân yr eiddo yn Ffordd Meigan ychydig wedi 09:00.
Chafodd neb anaf yn y digwyddiad, a dyw Heddlu Gogledd Cymru heb gadarnhau ar ba amheuaeth y cafodd y ddau berson eu harestio.
Mae'r heddlu a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogedd Cymru'n ymchwilio i'r achos ar y cyd.
Dywed y gwasanaeth tân eu bod wedi gorfod cyfuno aelodau criwiau lleol er mwyn ymateb i'r digwyddiad oherwydd "lefelau staffio isel" yn yr ardal.
Cafodd aelodau criwiau Porthaethwy a Biwmares gefnogaeth cydweithwyr o Fangor a'r Rhyl gan nad oedd criwiau llawn ar gael pan wnaethon nhw dderbyn yr alwad frys.
Dywed penaethiaid bod lefelau staffio isel "yn ganlyniad trafferthion recriwtio, staff yn gadael y gwasanaeth a staff nad sydd ar gael oherwydd ymroddiadau eu gwaith sylfaenol".
Mae hyn oll, maen nhw'n dweud, yn creu "heriau sylweddol o ran darparu ymateb brys llawn amser yn yr ardal yma".
Dywedodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Stuart Millington: "Wrth gwrs ein dymuniad fyddai i wastad gael criwiau ar gael ymhob un o'n gorsafoedd tân, ond mae hyn yn gynyddol anoddach yn ardaloedd llai poblog gogledd Cymru."