Rhai disgyblion uwchradd ddim i ddychwelyd cyn Pasg?
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud ei bod yn gobeithio y bydd pob disgybl wedi cael dychwelyd i'r ysgol wedi gwyliau'r Pasg.
Dywedodd Kirsty Williams y bydd Llywodraeth Cymru "mewn sefyllfa i weld ein holl blant oedran cynradd yn dechrau dychwelyd i'w dosbarthiadau o 15 Mawrth" os yw'r amodau'n parhau i wella cyn yr adolygiad nesaf.
Mae awydd hefyd i ddisgyblion blynyddoedd 11 a 13, a myfyrwyr sy'n dilyn cymwysterau tebyg mewn colegau, "allu dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb mewn ffordd ddiogel a hyblyg".
Ond dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y byddai llawer o rieni'n teimlo'n "rhwystredig" ar ôl clywed na fydd rhai disgyblion yn dychwelyd tan wedi'r Pasg.
Mae gwyliau'r Pasg yn dechrau ar 29 Mawrth, gyda'r tymor ysgol newydd i ddechrau ar 12 Ebrill.
Dywedodd Ms Williams yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Llun: "Byddwn yn cadarnhau'r sefyllfa i ddysgwyr eraill cyn gwyliau'r Pasg, ond... fy newis i yw cael pob disgybl yn ôl yn yr ysgol wedi'r gwyliau hynny."
Mae'n gobeithio "rhoi rhywfaint o hyblygrwydd" yn achos disgyblion Blynyddoedd 10 a 12 sy'n astudio at gymwysterau yr haf yma.
Ond rhybuddiodd "yn anffodus... ni fydd o reidrwydd yn golygu dychwelyd llawn amser" i wersi wyneb yn wyneb mewn ysgolion uwchradd a cholegau".
Cadarnhaodd Kirsty Williams y bydd y cynllun i brofi staff addysg ddwywaith yr wythnos yn cael ei ymestyn i gynnwys disgyblion blynyddoedd 11 a 13 a myfyrwyr addysg bellach.
Bydd y gallu i wneud y profion unffordd cyflym gartref, meddai, "yn helpu'r cynlluniau i ddisgyblion hŷn ddychwelyd o 15 Mawrth".
Yn y cyfamser, mae Cyngor Sir Môn wedi dweud na fydd unrhyw ddisgyblion yn dychwelyd i'r ysgolion yno tan o leiaf 1 Mawrth.
Mae'r penderfyniad wedi'i wneud "er mwyn gweld a fydd y graddfeydd heintio yn gostwng dros y saith diwrnod nesaf", meddai'r cyngor.
Ynys Môn sydd â'r gyfradd uchaf o'r haint yng Nghymru - 112.8 fesul 100,000 o'r boblogaeth, o gymharu â chyfartaledd Cymru, sef 80 fesul 100,000.
Ymateb y pleidiau
Mewn ymateb i sylwadau'r Gweinidog Addysg, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, y byddai llawer o rieni'n teimlo'n "rhwystredig" o glywed na fydd rhai disgyblion yn dychwelyd tan wedi'r Pasg.
Dywedodd fod penderfyniad Llywodraeth y DU i ganiatáu i holl ddisgyblion Lloegr ddychwelyd ar 8 Mawrth yn dangos "ei bod yn bosib ei wneud".
Ategu ei alwad am frechu bob athro wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Ond ychwanegodd: "Rwy'n credu mai dull Cymru, sydd hefyd yn digwydd yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon, yw'r dull cywir, sef cymryd pethau cam wrth gam yn hytrach na gwneud y cyfan gyda'i gilydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2021