'Rwy'n caru'r ysgol yn fawr - dyma fy hoff beth'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Piers
Disgrifiad o’r llun,

Mae Piers wedi gweld eisiau trefn arferol Ysgol Crownbridge yn ystod cyfnodau clo'r pandemig

Yr hyn y mae Piers eisiau ei wneud bob dydd yw mynd i'r ysgol. Doedd e ddim hyd yn oed eisiau gwyliau - dim ond treulio mwy o amser yn yr ysgol.

Ond nid yw Piers - sydd â ffurf o awtistiaeth - wedi gallu gorffen blwyddyn olaf ei gwrs TGAU mathemateg yn yr ystafell ddosbarth gyda'i ffrindiau a'i athrawon yn llawn amser oherwydd y pandemig.

"Rwy'n caru'r ysgol yn fawr," meddai'r disgybl 18 oed o Drefynwy. "Dyma fy hoff beth."

Ond dim ond un diwrnod yr wythnos y mae Piers, fel llawer o'i ffrindiau, wedi bod yn y dosbarth dros gyfnod Covid.

'Gofidus ac yn llefain bob dydd'

Mae'r pennaeth yn ei ysgol arbennig, Ysgol Crownbridge yng Nghwmbrân, Torfaen yn dweud mai'r colli rhannau helaeth o'u haddysg yw'r "effaith fwyaf" ar blant ag anghenion ychwanegol, a bod yr ysgol yn fan llawn cefnogaeth i ddisgyblion a'u teuluoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae 116 o ddisgyblion rhwng dwy a 19 oed ar gofrestr Ysgol Arbennig Crownbridge

Mae Piers wedi cael trafferth gydag addysgu gartref oherwydd ei "broblemau cysgu" - ac nid yw'r cyfyngiadau llym yng Nghymru wedi effeithio ar addysg Piers yn unig, ond ei hwyliau hefyd.

"Dydw i ddim yn gallu mynd allan ac mae fy iechyd meddwl yn dirywio," meddai.

"Dwi wedi bod yn ofidus iawn ac yn llefain bob dydd.

"Rwy wrth fy modd yn mynd i'r ysgol gan eich bod yn dysgu."

'Seibiant i'r plant'

Yn ôl y pennaeth dros dro, Bethan Moore, mae'r ysgol yn fan diogel i Piers, fel nifer o'r disgyblion eraill.

"Weithiau mae'n dipyn o seibiant i'r plant i ddod i'r ysgol," meddai.

Mae tua 20 o 116 o ddisgyblion Ysgol Crownbridge wedi bod yn mynd i'r ysgol yn ystod y cyfnod clo tra bod y gweddill yn aros gartref ac yn cael cynnig addysgu o bell.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed mam Amy bod yr ysgol wedi gwneud "ymdrechion mawr" i gysylltu â hi gartref

"Roedd yn anodd i ddechrau," meddai disgybl arall, Amy, 19 o Drefynwy, sydd hefyd yn gwneud TGAU Mathemateg.

"Gyda'r mwgwd ac oherwydd Covid allwch chi ddim gwneud rhai pethau, ond dydw i ddim wedi ei chael hi mor ddrwg â hynny gan ein bod wedi gwneud rhai pethau sy'n hwyliog."

Dywedodd Caroline, mam Amy, bod ei merch, sydd ag awtistiaeth, yn ffynnu yn yr ysgol.

"Ers y cyfyngiadau mae wedi bod yn arbennig o anodd," meddai.

"Ond mae'r ysgol wedi gwneud ymdrechion enfawr i ymgysylltu ag Amy gartref ac yn yr ysgol, sy'n bwysig iawn iddi gan fod angen y drefn honno arni.

"Mae'r profiad dysgu ar-lein yn newydd ond mae wedi dysgu sgiliau newydd iddi, felly mae'r dull dysgu cyfunol wedi bod yn brofiad cadarnhaol."

Wedi gorfod addasu'n gyflym

Bu'n rhaid i Ysgol Crownbridge, fel pob ysgol arall, addasu'n gyflym i'r sefyllfa yn sgil Covid.

"Bydd ein hathrawon yn anfon pecynnau dysgu adref bob wythnos gyda thargedau," meddai'r cynorthwyydd addysgu Megan Israel.

"Yna, mae'r rhieni'n anfon y gwaith yn ôl ac mae'r cyfan yn cael eu gosod mewn ffolderi i sicrhau nad yw'r plant yn colli allan."

Disgrifiad o’r llun,

Piers ac Amy yn ymuno â gwers ddigidol yn ystod eu hunig ddiwrnod bob wythnos yn yr ysgol

Mae'r "dull dysgu cyfunol" hefyd yn bwysig i'r rhai sy'n cael ffisiotherapi a'r disgyblion sy'n gorfod cyrraedd targedau oherwydd anghenion mwy difrifol a chorfforol.

Ond dywedodd Ms Israel ei bod yn "bwysig iawn" bod rhai disgyblion yn gallu mynd i'r ysgol i ddefnyddio'r offer arbenigol "i ddiwallu eu hanghenion".

Mae'r ysgolion hefyd wedi gweithio'n agos gyda ffisiotherapyddion a therapyddion lleferydd ac iaith i sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu i deuluoedd gartref, yn hytrach nag yn yr ysgol dros y cyfnod yma.

Ychwanegodd y pennaeth, Ms Moore ei bod yn "pryderu" am unrhyw ostyngiad yng nghynnydd y plant.

"Yn Crownbridge, rydyn wedi bod yn dda iawn am weithio fel tîm tynn, gan ddarparu cymorth i ddisgyblion a theuluoedd sy'n dysgu gartref," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i rai o ddisgyblion yr ysgol ddefnyddio offer arbenigol

Mae'r ysgol wedi sefydlu grwpiau cyswllt bach ac wedi sicrhau sesiynau glanhau dwysach ar y safle, ond mae rhai cyfleusterau ar gau, gan gynnwys eu pwll hydro a'u neuadd lle mae'r disgyblion yn cael ffisiotherapi.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar fesurau Covid yn caniatáu "dull ymarferol a hyblyg" i blant ag anghenion addysgol arbennig.

Wrth gerdded o amgylch yr ysgol, mae staff yn gwisgo gorchuddion wyneb ond mae Ms Moore yn dweud ei bod yn mynd yn anoddach pan fyddan nhw'n rhyngweithio â'r plant "sy'n dibynnu ar y geg a'r lleferydd a'r iaith i gyfathrebu".

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo brechu staff ysgolion arbennig sy'n darparu gofal personol i blant ac mae staff Crownbridge yn aros am eu pigiadau Covid.