Cysylltiad band eang yn 'newid byd' i bentref gwledig
- Cyhoeddwyd

Doedd dim cysylltiad band eang cyflym na signal ffôn dibynadwy ym mhentref Pandy tan yn ddiweddar
Mae trigolion pentref gwledig yn Nyffryn Ceiriog wedi cael eu cysylltu â band eang cyflym o'r diwedd ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu.
Dywedodd trigolion Pandy wrth BBC Cymru y llynedd eu bod yn derbyn cyflymder band eang o 1MB neu is, dim cyswllt 4G a signal ffôn tameidiog.
Roedd y pentref yn poeni eu bod wedi cael eu hanghofio yng nghanol y pandemig am nad oedd ganddyn nhw gysylltiad dibynadwy gyda gweddill y byd.
Ond mae Openreach bellach wedi sicrhau cysylltiad cyflym iawn i lawer o'r ardal, gyda thrigolion yn dweud eu bod yn teimlo fel eu bod wedi cael eu "cysylltu â'r 21ain Ganrif" o'r diwedd.
Mae'r pentrefwyr yn amcangyfrif bod tua hanner y cartrefi yn gallu derbyn y band eang cyflym, gyda'r gobaith y bydd y gweddill yn cael eu cysylltu o fewn yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Alison Bendall bod y band eang cyflym yn "newid byd i ni"
Dywedodd Alison Bendall, oedd wedi bod yn ei chael yn anodd gallu gwneud galwad fideo gyda'i theulu yn Lloegr, ei bod bellach yn derbyn band eang ar gyflymder o 400MB yr eiliad.
"Dydy geiriau ddim yn gallu disgrifio pa mor dda ydy hi i gael ein cysylltu o'r diwedd," meddai.
"O weld wyrion ac wyresau ar-lein, i wylio ffilmiau neu siopa heb orfod poeni am golli cysylltiad - mae'n wych.
"Mae'n newid byd i ni, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo."

Yn ôl Aeron Davies mae hi "wedi bod yn frwydr fawr iawn" i sicrhau band eang cyflym i'r pentref
Fe lwyddodd y pentrefwyr i gael Openreach i ymestyn y band eang i'w hardal nhw trwy ffurfio cynllun Partneriaeth Ffeibr Cymunedol, gan sicrhau arian grant er mwyn talu am y gwaith.
"Mae hi wedi bod yn frwydr fawr iawn i gael y broadband yma i Pandy," meddai un o'r trigolion, Aeron Davies.
"Mae'n gwneud lot o wahaniaeth i bobl sydd angen gweithio o gartref. Mae o mor gyflym rŵan, a does 'na ddim problem efo'r broadband o gwbl."
Ychwanegodd Connie Dixon o Openreach: "Nawr, fwy nag erioed, mae cysylltiad da yn allweddol i gymunedau ar draws y wlad.
"Roedd Pandy yn ardal gymhleth i'n peirianwyr ond mae'n dangos bod Openreach wedi ymrwymo i ddarparu cysylltiad band eang ffeibr i bob rhan o Gymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020