Galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi map ffordd fel Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ceidwadwyr wedi galw ar i weinidogion Cymru gyhoeddi map ffordd ar gyfer dod â'r cyfnod clo i ben, ar ôl i Brif Weinidog y DU ddatgelu cynlluniau ar gyfer Lloegr.
Mae Boris Johnson wedi amlinellu dyddiadau posib ar gyfer lleddfu cyfyngiadau Covid dros y ffin.
Ond mae gweinidog iechyd Cymru, Vaughan Gething, wedi cwestiynu honiad Mr Johnson "ei fod ar ffordd anghildroadwy i ryddid" gan rybuddio yn erbyn addewidion sydd ddim yn cael eu gwireddu.
Ddydd Gwener diwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddyddiadau ar gyfer agor rhai sectorau.
Ond dywedodd arweinydd y Torïaid yng Nghymru, Andrew RT Davies, fod hynny wedi bod yn "gyfle a gollwyd".
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd am godi gobeithion pobl yn rhy gynnar.
Beth ydy cynllun Llywodraeth y DU?
O dan gynllun pedwar cam Mr Johnson, fe allai'r holl derfynau cyfreithiol ar gyswllt cymdeithasol ddod i ben erbyn 21 Mehefin yn Lloegr.
Ond mae hynny'n amodol ar gynnal profion llym ar frechlynnau, cyfraddau heintiau ac amrywiadau newydd o coronafeirws.
Byddai ysgolion yn Lloegr yn ailagor ar 8 Mawrth, gyda siopau, siopau trin gwallt, campfeydd a lletygarwch awyr agored yn dilyn ar 12 Ebrill.
Dywedodd Mr Johnson wrth ASau bod y cynllun yn anelu at fod yn "ofalus ond yn anghildroadwy" ac ar bob cam byddai penderfyniadau'n cael eu harwain gan "ddata nid dyddiadau".
Yng Nghymru, mae gweinidogion wedi addo dilyn dull graddol o anfon plant yn ôl i'r ysgol, gan anelu at weld pob disgybl yn dychwelyd erbyn dechrau tymor yr haf yng nghanol mis Ebrill.
Wrth ymateb i sylwadau darllediad byw Mr Johnson dywedodd Mr Gething: "Dyw ein cyngor ni ddim yn cefnogi'r dewisiadau mae Lloegr wedi ei wneud.
"Ein dealltwriaeth ni yw bod y cyngor yn fras yr un peth ar gyfer pob cenedl yn y DU, ond mae Lloegr wedi gwneud dewis polisi i bob ysgol i ddychwelyd yr un pryd.
"Mae hynny'n golygu tra bod mwy o ddisgyblion yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth, mae'r risg hefyd yn uwch".
Mae yna wahaniaethau eraill rhwng polisiau'r ddwy lywodraeth.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi awgrymu caniatáu i rai llety hunanarlwyo ailagor mewn pryd ar gyfer y Pasg, ac y gall manwerthu sydd ddim yn hanfodol - yn wahanol i Loegr - ddechrau ailagor o 15 Mawrth.
Fe allai rheolau aros gartref gael eu codi mewn tair wythnos, gyda siopau trin gwallt a gwasanaethau cyswllt agos eraill i ailddechrau ar yr un pryd.
Nid oes unrhyw ddyddiadau wedi eu rhoi ar gyfer sectorau fel lletygarwch neu gampfeydd.
Dywedodd cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer llacio cyfyngiadau nad oes modd darparu dyddiadau i adael y clo lefel pedwar yn llwyr.
Ond dywedodd Mr Davies ei bod hi'n "bryd i weinidogion Llafur dorri'r wleidyddiaeth allan trwy weithio gyda Llywodraeth y DU i fabwysiadu fframwaith cyffredin ar gyfyngiadau allweddol wrth i ni symud allan o'r cyfnod clo".
"Dylai'r prif weinidog symud yn gyflym a naill ai gyhoeddi map ffordd i adferiad i Gymru, neu'n well fyth, cadarnhau y bydd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddilyn dull ar y cyd," meddai.
'Camau graddol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod gweinidogion wedi cyhoeddi dogfen ar sut y bydd Cymru yn dod allan o'r clo.
Dywedodd, wrth wynebu amrywiadau newydd o coronafeirws, "ni allwn ddarparu cymaint o sicrwydd ag yr hoffem".
"Ein dull gweithredu fydd lleddfu cyfyngiadau mewn camau graddol, gwrando ar y cyngor meddygol a gwyddonol ac asesu effaith y newidiadau a wnawn wrth inni fynd ymlaen.
"Byddwn yn rhoi cymaint o rybudd i bobl a busnesau ag y gallwn. Pan gredwn ei bod yn ddiogel lleddfu cyfyngiadau byddwn yn gwneud hynny.
"Yr hyn nad ydyn ni am ei wneud yw codi gobeithion a disgwyliadau pobl yn rhy gynnar, ac yna eu siomi.
"Byddwn ni'n alinio â chenhedloedd eraill y DU pan fydd yn briodol ac yn gwneud synnwyr i Gymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2021