Nifer y bobl sy'n ddi-waith yn gostwng ychydig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
diweithdraFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth nifer y bobl sy'n ddi-waith ac yn chwilio am swydd yng Nghymru ostwng ychydig yn y tri mis hyd at fis Rhagfyr.

4.4% yw'r gyfradd diweithdra yng Nghymru bellach - sy'n is na'r cyfartaledd o 5.1% ar draws y DU.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod 68,000 o bobl yn ddi-waith ac yn chwilio am swydd yng Nghymru rhwng Hydref a Rhagfyr.

Mae hynny 2,000 yn llai na'r cyfanswm rhwng Gorffennaf a Medi, ond 23,000 yn fwy na'r un cyfnod y llynedd, sy'n dangos effaith y pandemig.

155,000 ar ffyrlo

Cymru oedd wedi gweld y cynnydd mwyaf yn y DU o ran cyfradd y bobl oedd yn ddi-waith yn y tri mis rhwng Awst a Hydref, ond mae arwyddion bod pethau'n gwella ychydig yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Ar draws y DU mae 14.4% o bobl rhwng 16 a 25 oed yn ddi-waith, gan bwysleisio'r effaith mae'r pandemig wedi'i gael ar swyddi pobl ifanc.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf roedd 155,000 yn rhagor o bobl yng Nghymru ar gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU.

Y gred yw na fyddwn yn gwybod gwir effaith y pandemig ar ddiweithdra nes i'r cynllun hwnnw ddod i ben.

Ar hyn o bryd mae'r cynllun mewn lle tan ddiwedd Mawrth, ond mae pwysau ar y Canghellor Rishi Sunak i'w ymestyn ymhellach.