Covid: Rhybudd bod Môn yn 'un o'r cyfnodau mwyaf bregus'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mae nifer yr achosion yno yn 102.8 fesul 100,000 o'r boblogaethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfradd yr achosion Covid-19 yn Ynys Môn yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol

Mae pobl Ynys Môn yn wynebu "un o'r cyfnodau mwyaf bregus ers dechrau'r pandemig", yn ôl Grŵp Atal Covid-19 yr ynys.

Mae'r tîm aml-asiantaeth yn annog trigolion i barhau i fod yn "hynod ofalus".

Daw'r rhybudd wrth i'r ffigyrau diweddaraf ddangos fod y gyfradd heintio ym Môn yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol.

Mae nifer yr achosion yno yn 102.8 fesul 100,000 o'r boblogaeth - yr ail uchaf yng Nghymru tu ôl i Sir y Fflint - gyda'r ffigwr trwy Gymru gyfan yn is na 76.

Dywed y grŵp fod y ffigyrau yn "frawychus", gyda 19 marwolaeth yn gysylltiedig â'r haint mewn mis ym Môn - cyfanswm o 59 ers dechrau'r pandemig.

Yn y cyfamser ni fydd tair ysgol yng Ngwynedd yn agor i ddisgyblion cyfnod sylfaen ddydd Iau a Gwener oherwydd "sefyllfa o gynnydd mewn achosion Covid-19 yn Ysbyty Gwynedd".

Mewn llythyr at rieni, dywedodd Cyngor Gwynedd y byddai oedi yn rhoi mwy o amser i asesu'r sefyllfa.

Mae'r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Môn, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Prifysgol Bangor, Grŵp Llandrillo-Menai a Meddygfeydd Ynys Môn.

Dywedodd Cadeirydd y Grŵp a Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Môn, Dylan Williams: "Mae ein hynys bellach yn wynebu un o'r cyfnodau mwyaf bregus ers dechrau'r pandemig.

"Mae nifer yr achosion wythnosol o'r coronafeirws a'r raddfa sy'n profi'n bositif yn parhau'n bryderus; ac mae Ynys Môn dal gyda'r ail raddfa heintio coronafeirws uchaf unrhyw le yng Nghymru.

"Fel cymuned, ni allwn ymlacio - er bod pethau'n ymddangos fel eu bod yn gwella ar lefel genedlaethol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Mae ein gweithredoedd a'n hymddygiad unigol yn allweddol os ydym am weld y sefyllfa yn gwella cyn gynted â phosibl, tra'n lleihau nifer y bobl sy'n colli eu bywydau."

Ychwanegodd: "Mae'n bwysicach nac erioed ein bod ni'n dilyn y canllawiau cenedlaethol a lleol hollbwysig. Mae'r rheolau yn bodoli er mwyn amddiffyn pawb, ein hanwyliaid, ein cymunedau a'r GIG."

'Methu gadael y gwaith caled fynd i wastraff'

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Llinos Medi: "Mae bywydau 59 o deuluoedd a ffrindiau'r rhai sydd wedi eu colli ym Môn wedi newid am byth o ganlyniad i'r feirws creulon hwn.

"Mae'r 11 mis diwethaf wedi bod yn hynod anodd a heriol i bawb ond ni allwn adael i'r holl waith caled fynd yn wastraff.

"Rhaid i ni barhau i fod mor wyliadwrus â phosibl a chadw at y rheolau cenedlaethol er mwyn amddiffyn ein hunain, ein teuluoedd, ein ffrindiau a'n cymunedau."

Mae'r cyngor eisiau pwysleisio y dylai unrhyw un sydd ȃ symptomau ddechrau hunan-ynysu ynghyd ȃ phawb yn y cartref a threfnu prawf cyn gynted â phosibl ac maent yn nodi y dylai trigolion drefnu prawf cyn ymweld â'r ganolfan brofi.

Gellir trefnu prawf drwy ffonio 119 neu drwy ymweld â'r porthol ar-lein, dolen allanol.

Gohirio agor ysgolion

Ddydd Mercher fe gafodd rhieni a gofalwyr ysgolion Y Faenol, Y Garnedd a Chae Top yn ardal Bangor lythyr gan Gyngor Gwynedd i oedi dychwelyd plant i'r dosbarth.

Bydd yr ysgolion ar gau tan ddydd Llun, 1 Mawrth a hynny wedi i blant y Cyfnod Sylfaen (3-7 oed) ddechrau mynd yn ôl i'w hysgolion yr wythnos hon.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor y byddai'r oedi'n "caniatáu i'r awdurdod dderbyn mwy o wybodaeth ynglŷn ag effaith y sefyllfa yn Ysbyty Gwynedd ar gymuned yr ysgol".

Ddydd Mawrth dywedodd awdurdodau yn Ysbyty Gwynedd eu bod yn ceisio rheoli lledaeniad o Covid-19 sydd wedi effeithio cleifion mewn pum ward.