'Trysor o ddyn' wedi marw o gymhlethdodau Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Huw Gethin JonesFfynhonnell y llun, Rondo Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Huw Gethin Jones yn briod ac yn dad i ddau fab ifanc

Mae teyrngedau lu wedi'u rhoi i dad ifanc o Ynys Môn sydd wedi marw yn sgil cymhlethdodau ar ôl cael ei heintio â Covid-19.

Bu farw Huw Gethin Jones, oedd yn 34 oed ac o Lynfaes, ger Llangefni, yn Ysbyty Walton, Lerpwl ddydd Gwener.

Cyn hynny roedd wedi treulio cyfnod yn Ysbyty Gwynedd Bangor wedi iddo gael symptomau o'r feirws.

Erbyn dechrau prynhawn Sul roedd ymgyrch dorfol er cof amdano wedi codi dros £21,000.

Mae'r gronfa wedi'i ffurfio i gefnogi ei wraig a'u meibion un a thair oed.

'Diolch am bob neges'

Ddydd Sul dywedodd ei chwaer-yng-nghyfraith Catrin Jones, sy'n cael ei hadnabod fel Catrin Toffoc, fod marwolaeth Huw Gethin Jones wedi bod yn sioc anferth a bod y golled yn enfawr.

"Roedd Huw yn gymeriad aruthrol - mor hoffus, mor hwyliog - a oedd yn ŵr, tad, mab a brawd bendigedig," meddai.

"Ro'dd o'n gallu troi ei law at bob math o bethau - roedd o'n chwaraewr rygbi, ro'dd o'n ganwr, yn gitarydd ac yn ddiweddar yn fragwr ac wedi sefydlu Bragdy Mona gyda'i ffrindiau - roedd dyfodol disglair o'i flaen.

Disgrifiad,

Catrin Toffoc yn diolch am bob neges o gydymdeimlad

"Fel teulu 'dan ni wedi'n llorio gyda'r ymateb sydd wedi bod - 'dan ni mor ddiolchgar am y geiriau ry'n wedi eu derbyn fel teulu ac yn meddwl am bob teulu arall sydd wedi profi colledion.

"Roedd Huw yn llabwst o ddyn, yn ffit ac yn 34 oed - mae'n sioc bod Covid wedi cael y ffaswin effaith arno ac mae'r anghysondeb sydd rhwng symptomau pobl yn dychryn rywun.

"Ein neges ni yw i bawb barhau i gymryd gofal - 'dan ni wedi profi chwerwder ar ei waethaf."

'Colli cydweithiwr annwyl'

Mae wedi ei ddisgrifio fel "trysor o ddyn" gan gwmni teledu Rondo Media, ble roedd yn gweithio fel golygydd fideo.

"Rydyn ni wedi colli cydweithiwr a oedd yn ffrind annwyl i ni i gyd," medd prif weithredwr y cwmni, Gareth Williams.

Ffynhonnell y llun, Rondo Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr Jones yn cael ei alw'n Huw Geth neu Stretch gan ffrindiau a pherthnasau

"Roedd cyfraniad Huw Gethin at ein cynyrchiadau yn aruthrol - yn olygydd brwd a thalentog a oedd yn rhan o dîm ôl-gynhyrchu Rondo ar gyfresi Rownd a Rownd a Sgorio. Fe roddodd sglein a safon hefyd i gyfresi fel Cynefin, Codi Hwyl a Gwlad yr Astra Gwyn.

"Roedd yn rhan amhrisiadwy o griw golygu digwyddiadau fel Eisteddfod Llangollen a City of the Unexpected. Mi oedd unrhyw dîm yn gryfach tîm os oedd Huw Geth yn rhan o'r tîm hwnnw.

'Hawddgar a hwyliog'

"Mae ei gyfeillion yn Rondo wedi bod yn rhannu negeseuon a'u teimladau a phawb yn amlwg yn meddwl y byd ohono.

"Roedd Huw yn ffrind hawddgar a hwyliog, caredig, cymdeithasol a gofalgar. Gŵr bonheddig ac annwyl a fyddai'n goleuo unrhyw 'stafell olygu. Cymaint yw'r golled nawr hebddo fe.

"Mae ein meddyliau ni a'n cydymdeimlad llwyr gyda Teleri a'r teulu cyfan. Fe gofiwn am byth am Huw Geth. Trysor o ddyn a phob un ohonom yn gyfoethocach o fod wedi ei adnabod."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Clwb Rygbi Llangefni🏉🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🐗

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Clwb Rygbi Llangefni🏉🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🐗

Yn ôl trefnwyr yr ymgyrch ariannu torfol, roedd "yn aelod brwd o Glwb Rygbi Llangefni, yn un o hoelion wyth Hogia Llanbobman ac yn asgwrn cefn i Fragdy Mona".

Roedd hefyd yn adnabyddus fel cerddor, ac yn aelod o nifer o grwpiau lleol.

Roedd yna deyrnged hefyd gan AS Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth. Ysgrifennodd ar Twitter: "Cwbl, cwbl dorcalonnus. Dim geiriau yn wir. I Teleri a'r plant, y teulu oll, a chyfeillion annwyl, pob cydymdeimlad, a phob cryfder i chi."

Dywedodd wrth BBC Cymru: "Dwi'n meddwl bod y newyddion yma wedi taro pawb yn galed iawn.

"Nid yn unig bod Huw yn ddyn ifanc mor arbennig, mor amryddawn, yn gwneud gymaint dros ei gymuned... Ond hefyd 'da ni 'di diodde' colledion mawr i Covid ar yr ynys yn ddiweddar, a ma' hyn wedi atgoffa pobol o'r peryg sy' o'n cwmpas ni a ma' rhaid i ni neud popeth i gadw'n gilydd yn saff."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Annes Glynn

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Annes Glynn

Dangosodd ystadegau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sul taw Ynys Môn oedd â'r gyfradd achosion uchaf trwy Gymru, sef 122.8 i bob 100,000 o bobl.

Cadarnhaodd cwmni Rondo ym mis Ionawr bod gwaith ffilmio'r gyfres deledu Rownd a Rownd wedi ei atal am wythnos oherwydd pryderon am gynnydd mewn achosion Covid-19 yn yr ardal.

Dywedodd y cwmni bryd hynny bod dim achosion wedi eu cadarnhau ymysg y cast a'r criw ond bod "rhywfaint o achosion diweddar iawn" ymysg staff yn swyddfa'r cwmni yng Nghaernarfon.

Pynciau cysylltiedig