Sut all Cymru geisio atal datgoedwigo'r Amazon?

  • Cyhoeddwyd
Datgoedwigo anghyfreithlon yn BrazilFfynhonnell y llun, WWF

Fe allai Cymru arwain y byd wrth geisio cael gwared ar fewnforion o gynnyrch sy'n achosi datgoedwigo, yn ôl cynllun newydd gan elusennau amgylcheddol.

Y syniad yw gwaredu ar nwyddau sy'n dinistrio llefydd fel coedwig law'r Amazon.

Mae ardal o goetir oddeutu naw gwaith maint Cymru yn cael ei golli ar draws y byd bob blwyddyn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod taclo datgoedwigo yn "hanfodol wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd".

Colli cae rygbi o goed bob 2 eiliad

Ni all yr argyfyngau hinsawdd a natur gael eu datrys heb fynd i'r afael a datgoedwigo byd-eang, meddai ymgyrchwyr o WWF Cymru, RSPB Cymru a Maint Cymru mewn adroddiad i wleidyddion cyn etholiad y Senedd eleni.

Maen nhw'n rhybuddio hefyd bod na risg o ledu rhagor o glefydau all achosi pandemig, wrth i anifeiliaid gwyllt gael eu gorfodi i ddod i gysylltiad agosach â phobl a da byw.

Ffynhonnell y llun, WWF
Disgrifiad o’r llun,

Mae ardal o goetir oddeutu naw gwaith maint Cymru yn cael ei golli ar draws y byd bob blwyddyn

Mae'n "gywilyddus" bod gwerth cae rygbi o goetir yn cael ei golli bob dwy eiliad ar draws y byd o ganlyniad i gynhyrchu llond llaw o nwyddau megis olew palmwydd, soy, pren, coffi, cacao a chig eidion, meddai Barbara Davies Quy, Pennaeth Rhaglenni Maint Cymru.

"Mae'r holl gynnyrch yma'n cael ei fewnforio i Gymru a mi allen nhw fod yn y bwyd a'r diod ry'n ni'n eu prynu bob dydd," meddai.

"Ry'n ni gyd yn rhan o'r economi datgoedwigo."

Fe awgrymodd y byddai ymrwymo i gynllun sy'n taclo cyfraniad Cymru i'r broblem yn gyfle i ddangos "arweinyddiaeth byd-eang" cyn cynhadledd hollbwysig y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd - COP26 - yn ddiweddarach eleni.

Felly sut allai ddigwydd?

Mae'r adroddiad yn galw ar i weinidogion ei gwneud hi'n amod i unrhyw fusnes y maen nhw'n eu cefnogi'n ariannol ymrwymo i gadwyni cyflenwi sydd ddim yn cefnogi datgoedwigo.

Dylid cyflwyno newidiadau hefyd i reolau caffael cyhoeddus - fel bod prydau ysgol ac ysbyty er enghraifft ddim yn cynnwys cynnyrch sydd wedi arwain at dorri coed dramor.

Mae angen strategaeth fwyd newydd, i flaenoriaethu cynnyrch lleol a chynaliadwy - gyda ffermwyr hefyd yn cael eu hannog i symud oddi wrth defnyddio soy i fwydo'u hanifeiliaid.

Disgrifiad o’r llun,

Mae soy yn un o'r mewnforion sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru

Dywedodd Rhys Evans, Swyddog Polisi Amaeth RSPB Cymru na fyddai pobl efallai'n sylweddoli bod dros 80% o'r soy sy'n cael ei fewnforio i'r DU yn cael ei ddefnyddio fel bwyd da byw - yn enwedig ar gyfer ieir, moch a gwartheg.

"Hyd yn oed drwy fwyta cynnyrch Cymreig, felly - mewn rhai achosion mi allwn ni fod yn cyfrannu'n anuniongyrchol tuag at y broblem yma," meddai.

"Un o'r petha' allwn ni wneud ydy cyflwyno polisi amaeth newydd - yn annog ffermio natur-gyfeillgar, agro-ecolegol sy'n lleihau'r ddibyniaeth yma ar fwyd da byw o dramor sy'n defnyddio soy."

Ychwanegodd: "Law yn llaw wedyn mae angen gweledigaeth system fwyd newydd - un sy'n ysgogi a gwobrwyo cadwyni cyflenwi lleol a sy'n defnyddio nwyddau cynaliadwy yn unig."

Ffynhonnell y llun, Coffi Jenipher
Disgrifiad o’r llun,

Drwy gefnogi mentrau fel Coffi Jenipher, fe allai'r cyhoedd wneud gwahaniaeth mawr, meddai'r ymgyrchwyr

Ond mae 'na le i'r cyhoedd wneud eu rhan hefyd, meddai'r ymgyrchwyr, ac mae Elen Jones, sy'n gyfrifol am brosiect Coffi a Newid Hinsawdd Caerdydd yn credu y byddai'r cyhoedd yn gefnogol iawn.

"Ry'n ni'n barod yn edrych ar becynnau a gwastraff a'r agenda plastig ac yn gofyn 'be alla i ei wneud am hynny'?'" meddai.

Gyda grant gan Lywodraeth Cymru, mae'r prosiect newydd lansio brand newydd o goffi - Coffi Jenipher - wedi'i enwi ar ôl y ffermwr o Uganda sy'n cyflenwi'r ffa.

Y gobaith yw y bydd hyn yn cryfhau cysylltiadau â rhanbarth Mbale, Uganda - lle mae rhaglen i blannu coed sydd hefyd wedi'i ariannu o Gymru yn anelu i sicrhau 25 miliwn o goed newydd erbyn 2025 fel rhan o'r ymateb i newid hinsawdd.

'Rhywun yn rhywle yn talu'

"Mae'n annheg bod rhywun fel Jenipher sydd wedi cyfrannu lleia' at newid hinsawdd yn cael ei heffeithio fwya'.

"Felly os mae rywun yn dewis rhwng pris a gofyn a ydy hynny'n rhy ddrud - y cwestiwn ni'n ei ofyn yw pam fod hynny mor rhad. Mae rhywun yn rhywle yn talu'r pris.

"Wrth edrych ar fasnach deg a gweld wyneb Jenipher ar y coffi mae'n dod a ni'n fwy agos a gofyn pa fath o rôl allwn ni ei chwarae i wneud Cymru yn wlad well."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae rhywun yn rhywle yn talu'r pris" am nwyddau rhad sy'n dod i Gymru, meddai Elen Jones

Mae'r ymgyrchwyr hefyd am weld targedau nwyon tŷ gwydr y llywodraeth i gynnwys allyriadau sy'n gysylltiedig â nwyddau allai fod wedi achosi datgoedwigo, a bod gweinidogion yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth y DU i sicrhau bod unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol yn cadw at safonau amgylcheddol uchel.

Byddai cyrraedd y nod o fod yn "Genedl Dim Datgoedwigo" yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn gwneud "popeth gallai" gyda'r grymoedd sydd ganddi, meddai'r elusennau - gan gydnabod bod dileu'r nwyddau yma'n llwyr yn rhywbeth sy' benna' yn nwylo'r busnesau preifat sy'n eu prynu a'u gwerthu.

Ond yn ôl Shea Buckland-Jones, Rheolwr Polisi Defnydd Tir WWF Cymru mae gan weinidogion ym Mae Caerdydd "gallu sylweddol a photensial go iawn i ddylanwadu ar yr agenda yma - boed hynny drwy gaffael cyhoeddus, cyllid i fusnesau neu ddeddfwriaeth a pholisi ym maes amaeth".

Dywedodd hefyd y gallai'r "cyhoedd wneud gwahaniaeth - drwy alw am newid, codi ymwybyddiaeth neu ystyried yr hyn y maen nhw'n ei brynu - o ddewis cig eidion sydd wedi'i gynhyrchu'n lleol a'i fwydo ar wair, neu chwilio am fathodynnau masnach deg ar nwyddau fel siocled a choffi".

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod taclo datgoedwigo yn "hanfodol wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd a dirywiad ein bioamrywiaeth".

Ychwanegodd llefarydd y byddai gweinidogion yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad yn ofalus.

Pynciau cysylltiedig