'Gwaith papur a chostau' yn rhwystro nwyddau o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae nwyddau o fusnesau Cymru yn cael eu rhwystro rhag cael eu hallforio i Iwerddon oherwydd y gwaith papur a chostau ychwanegol, yn ôl CBI Cymru.
Dywedodd cyfarwyddwr y conffederasiwn yng Nghymru, Ian Price, bod yr awdurdodau yng Ngweriniaeth Iwerddon yn "achosi rhywfaint o oedi" wrth wirio ac edrych yn fanwl ar nwyddau sy'n croesi'r ffin.
Galwodd Mr Price am "weithredu cyson" wrth allforio o'r DU i'r UE yn sgil cwynion am fiwrocratiaeth.
Dywed fod aelodau'r CBI wedi cwyno am ddogfennau'n cael eu gwrthod am fod inc glas wedi cael ei ddefnyddio i lenwi ffurflenni yn hytrach nag inc du.
Dywedodd Denise Hanrahan, prif gonswl Iwerddon yng Nghymru, fod Llywodraeth Iwerddon "wirioneddol wedi canolbwyntio" ar geisio hwyluso masnach rhwng y ddwy wlad gymaint â phosib.
Iwerddon yw'r bedwaredd farchnad allforio fwyaf i Gymru, y tu ôl i'r Almaen, Ffrainc ac UDA a'r wlad yw'r pumed farchnad allforio fwyaf Prydain Fawr, gyda £20bn o fasnach yn teithio yn ôl ac ymlaen ar draws Môr Iwerddon yn wythnosol.
Ers 1 Ionawr 2021, bu gostyngiad yn y traffig rhwng y DU ac Iwerddon yng Nghaergybi ac yn Aberdaugleddau.
Dywed Mr Price nad yw hi'n bosib gweld beth sydd wrth wraidd hyn ar hyn o bryd, naill ai bod "cwmnïau wedi paratoi wrth ddisgwyl problemau yn y dyddiau cynnar neu mae hyn yn newid gwirioneddol yn y ffordd y mae pobl yn symud eu nwyddau".
"Does dim gwadu bod costau cludo nwyddau wedi cynyddu i raddau helaeth ac mae'n anodd dweud ar hyn o bryd, os yw yn dros dro, neu a yw hyn yn rhywbeth sydd gyda ni am byth," meddai.
"Mae'n amlwg bod llawer mwy o weinyddu'n gysylltiedig â'r broses nawr ein bod yn symud nwyddau i dir mawr Ewrop ac o ganlyniad, mae angen mwy o bobl, mae angen mwy o amser neu ddogfennaeth ac mae hynny ynddo'i hun yn creu cost ac yna mae hynny wedi'i drosglwyddo gan y rhai sy'n anfon nwyddau.
"P'un a ellir gweithio drwy hynny dros amser, dydw i ddim yn gwybod yn onest ond ar hyn o bryd mae'n faich ac mae'n cael ei amsugno gan y busnesau yn y DU."
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Conswl Cyffredinol Iwerddon, Denise Hanrahan: "Mae Iwerddon a Chymru wedi'u clymu mor agos, mae'r ffin ry'n ni'n rhannu yn un o'r cysylltiadau hanfodol rhyngom.
"Mae'r DU wedi gadael Undeb Tollau'r UE, wedi gadael y farchnad sengl, ac mae hynny'n anochel yn ei gwneud yn ofynnol i systemau gael eu rhoi ar waith i reoli'r tollau, yr agweddau iechyd, yr agweddau diogelwch anifeiliaid... yr holl agweddau arferol hynny ar fasnachu."
Eglurodd Ms Hanrahan fod "llawer o waith er mwyn deall" prosesau yn dilyn gan ychwanegu bod Llywodraeth Iwerddon wedi bod yn cefnogi busnesau "i ddysgu cymaint â phosibl o ran y ffordd orau iddyn nhw ryngweithio â'r systemau hynny".
Oedi o chwe wythnos
Josh Burbidge yw Rheolwr Gyfarwyddwr Archwood Group, busnes teuluol 150 oed sydd wedi'i leoli yn y Waun.
Mae'r cwmni, sy'n cyflogi dros 120 o bobl, yn cynhyrchu ac yn dosbarthu cynhyrchion saernïaeth i gwsmeriaid gan gynnwys B&Q, Homebase, Travis Perkins yn y DU a McMahons, MacBlair's, Cork Builder Supplies yn Iwerddon.
Eglurodd Mr Burbidge fod marchnad Iwerddon yn rhan "sylweddol" o'r busnes, gwerth dros £600,000 mewn refeniw y flwyddyn.
"Gwnaethom benderfyniad i roi'r gorau i allforio unrhyw beth i Iwerddon am bythefnos ddechrau mis Ionawr i helpu gyda'r gwaith papur a sicrhau bod popeth wedi'i ddatrys o ran yr holl reoleiddio."
Roedd oedi o chwe wythnos ar nwyddau cafodd eu hallforio i Weriniaeth Iwerddon gan Grŵp Archwood yn ddiweddar.
"Ni sy'n talu'r costau ychwanegol ar hyn o bryd, does dim modd i ni neud hynny yn yr hirdymor, mae pob paled yn costio £65 ychwanegol i allforio ac mae pob parsel unigol yn costio £6.50 yn ychwanegol," meddai.
"Byddwn yn dod o hyd i'n ffordd drwodd, ond mae'n annymunol gyda'r heriau presennol sydd gennym yn amseroedd Covid i gael yr heriau ychwanegol hyn o gael ein cynnyrch i farchnad yr ydym wedi bod yn ei gwasanaethu ers dros 25, 30 mlynedd."
'Prisiau yn afrealistig'
Yn ôl Rheolwr Gwerthiant Wrexham Lager, Joss Roberts, mae cymhlethdodau yn dilyn Brexit yn cael "effaith fawr" ar y busnes.
Ychwanegodd bod y cwmni'n "lwcus" bod y rhan fwyaf o'u busnes yn dod o'r DU.
"Mae prisiau'n mynd yn afrealistig. Roedd rhaid i ni ganslo tair archeb o Iwerddon y bore yma oherwydd disgwylir i'r cwsmer dalu €11.50 y crât, mae hynny ar ben ffi'r courier gweinyddol. Mae wedi codi tua £17 i ddanfon i Weriniaeth Iwerddon a dros €60 y crât o ran Sbaen."
"Rwyf wedi ysgrifennu'n ôl at y cwsmeriaid ac wedi dweud: Bydd y ffioedd ychwanegol hyn, a hoffech chi i ni brosesu'r archeb? A nawr bydd yn rhaid i ni weithio allan ffordd o wneud hyn," meddai.
"Ydyn nhw'n ffonio ac yn talu'r ychwanegol dros y ffôn? A ydym yn ychwanegu'r gost ar ein gwefan? Mae'n drafferth nad oedd yno ym mis Rhagfyr.
"Rydyn ni'n gobeithio bydd y sefyllfa'n gwella cyn hir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2021