Ymchwiliad wedi 'ffrwydriad' siop yn yr oriau mân

  • Cyhoeddwyd
car heddlu

Mae'r heddlu yn ymateb i "ddigwyddiad sy'n parhau" yn ardal Llanrhymni, Caerdydd wedi i ran o siop gael ei dinistrio.

Fe wnaeth Heddlu De Cymru drydar: "Oherwydd digwyddiad sy'n parhau ar Rodfa Countisbury rydym yn gofyn i bawb osgoi'r ardal tan fydd hysbysiad pellach."

Mae dau griw o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd wedi mynd i'r safle.

Daeth adroddiadau gan bobl sy'n byw yn yr ardal eu bod wedi clywed ffrwydrad am oddeutu 04:00 fore Gwener.

Mewn datganiad diweddarach, dywedodd Heddlu'r De: "Rydym ymchwilio i ladrad yn siop Co-op ar Rodfa Countisbury, Llanrhymni a ddigwyddodd tua 04:00 y bore 'ma.

"Credir bod rhywrai wedi defnyddio silindrau asetylen i gael mynediad i'r siop a'r peiriant ATM gan arwain at ffrwydriad swnllyd a difrod sylweddol.

"Cafodd nifer o fflatiau uwchben y siopau eu gwagio rhag ofn, tra bod y silindrau'n cael eu diogelu gan y gwasanaeth tân.

"Does dim anafiadau wedi'u hadrodd ac mae'r ffordd yn dal ar gau wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo.

"Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu'r De ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 gan ddyfynnu'r cyfeirnod *067488."

Mae Philip Lancefield yn berchennog siop llysiau gerllaw ar Rodfa Countisbury.

Dywedodd fod 'ram-raid' wedi bod yn yr un siop ddwy flynedd yn ôl, ond dim byd mor ddifrifol â digwyddiad dydd Gwener.

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Caerdydd: "Yn dilyn ymdrech ofer i fynd â pheiriant twll-yn-y-wal o'r siop Co-op cafodd tân ei gynnau yn yr adeilad a oedd yn berygl i'r rhai sy'n byw mewn fflatiau uwchben y siopau.

"Y cyngor oedd yn gyfrifol am wagio'r adeilad a rhoi lloches i 40 person yn ystod y digwyddiad.

"Fe ddilynwyd yr holl weithdrefnau perthnasol a daeth y digwyddiad i ben am 06:30. Mae'r trigolion bellach wedi cael dychwelyd i'w heiddo ac mae'r cyngor yn parhau i gefnogi'r gwasanaethau brys wrth i'r ymchwiliadau barhau."