Dyn wedi marw yn dilyn digwyddiad ar fferm ger Y Bala

  • Cyhoeddwyd
ParcFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dau ambiwlans eu hanfon i fferm yn Y Parc ger Y Bala ddydd Iau

Mae dyn wedi marw yn dilyn digwyddiad ar fferm yn Y Parc ger Y Bala ddydd Iau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch eu bod yn ymwybodol o'r digwyddiad ac yn cydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i geisio gwybod mwy am yr hyn ddigwyddodd.

Cadarnhaodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad.

"Cawsom ein galw toc wedi 14:30 brynhawn ddoe, dydd Iau, 25 Chwefror, i gyfeiriad yn ardal Y Parc, Y Bala.

"Anfonwyd dau ambiwlans argyfwng i'r safle."

Colli gŵr gweithgar

Does dim mwy o fanylion na hynny wedi eu rhyddhau hyd yn hyn ynglŷn â'r dyn a fu farw, ond mae cynghorydd lleol, Elwyn Edwards, wedi dweud mewn datganiad "bod y gymuned gyfan yn dod ynghyd i gefnogi teulu" y gŵr 54 oed.

"Mae colli gŵr gweithgar sy'n gadael teulu o fewn cymuned glos, fel y Parc, yn ergyd drom" meddai'r Cynghorydd Edwards.

"Rydym yn cydymdeimlo'n ddwys â'i deulu a'i gyfeillion.

"I'r diwydiant amaeth yn Sir Feirionnydd, mae hi'n glec.

"Estynnwn ein breichiau fel cymuned i gefnogi'n gilydd ac i atgoffa gweithwyr o fewn y diwydiant amaeth sy'n brysur ar hyn o bryd yng nghyfnod y tymor wyna a'r lloeau, i gofio am y teulu bach yma, yn eu colled."

Pynciau cysylltiedig