Gobaith rhyddhau corff o Wlad Thai wedi gwall pasport

  • Cyhoeddwyd
David DonoghueFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd David Donoghue wedi mynd â hen basport i'r ysbyty trwy gamgymeriad

Mae llysferch dyn 75 oed a fu farw yng Ngwlad Thai yn gobeithio y bydd modd rhyddhau ei gorff o ysbyty sydd wedi ei gadw am bythefnos oherwydd biwrocratiaeth yn ymwneud â rhifau pasport.

Yn niffyg datrysiad, roedd bwriad i gynnwys corff David Donoghue, a symudodd i Phuket wrth ymddeol 15 mlynedd yn ôl, mewn amlosgiad torfol yn yr ysbyty ddydd Mercher.

Roedd Gemma Swift, sy'n byw yn Abergele, wedi "erfyn" ar staff Llysgenhadaeth Prydain yng Ngwlad Thai i ddatrys "mater hollol weinyddol", wedi i Mr Donoghue fynd â hen basport i'r ysbyty yn lle ei basport cyfredol.

Dywed y Swyddfa Gartref bod staff yn ceisio dod o hyd i'r gwaith papur cywir, ac mae ymgymerwyr angladdau yn Phuket bellach wedi ebostio Ms Swift i ddweud bod cytundeb i gyhoeddi tystysgrif marwolaeth heb rif pasport.

Roedd Mr Donoghue, a fudodd i Wlad Thai o Bury, yn diodde' clefyd yr ysgyfaint COPD.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans, gan fynd â'r hen basport gyda fo ar gam. Bu farw yno ar 15 Chwefror, yn ôl Ms Swift.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa wedi bod yn "ddychrynllyd" i'r teulu, medd Gemma Swift

Rhif pasport cyfredol Mr Donoghue oedd ar ddogfennau Llysgenhadaeth Prydain sy'n angenrheidiol i ryddhau'r corff i'r ymgymerwr angladdau. Gan nad oedd y rhifau'n cyfateb, cafodd ei gorff ei gadw yn yr ysbyty.

Roedd Ms Swift wedi dadlau mai mater hawdd oedd datrys y sefyllfa, sydd wedi bod "yn ddychrynllyd" i'r teulu.

Roedd Llysgenhadaeth Prydain yn Bangkok wedi dweud yn wreiddiol gan mai rhif y pasport cyfredol oedd ar eu llythyr nhw, bod dim modd rhoi llythyr arall gyda rhif yr hen basport.

Erbyn bore Mawrth, roedd yna arwyddion bod yna ddatrysiad, er bod Ms Swift heb glywed dim byd yn swyddogol eto gan y Llysgenhadaeth.

"Glywsom ni gan yr ymgymerwyr angladdol... bod y Llysgenhadaeth wedi siarad gyda'r Uchel Gomisiynydd a chyfarwyddwr yr ysbyty a chytuno i gyhoeddi tystysgrif marwolaeth," dywedodd.

"Dwi'n meddwl mai dyma gam cyntaf y broses o ran gwaith papur cyn y gallwn ni ei gasglu.

"Erbyn 07:00 amser y DU [14:00 yng Ngwlad Thai], gobeithio, dyliwn ni gael ei gorff yn ôl a byddwn yn gallu cynnal gwasanaeth angladdol yn Phuket."

Wedi teimlo'n 'anobeithiol'

Bwriad y teulu, cyn y trafferthion pasport, oedd trefnu angladd yng Ngwlad Thai, cludo'r llwch yn ôl i'r DU a dychwelyd i Wlad Thai maes o law i'w gwasgaru yno, yn ôl dymuniad Mr Donoghue.

Ni fu'n bosib i neb o'r teulu deithio i fod gyda Mr Donoghue yn ei ddyddiau olaf, ac mae'r cyfnod cwarantîn yn sgil Covid, sef pythefnos, wedi'u hatal rhag mynd i'r afael â'r fiwrocratiaeth.

Dywed Ms Swift bod y teulu wedi teimlo'n anobeithiol, a hwythau'n 6,000 o filltiroedd i ffwrdd.

"Ro'n i wastad wedi meddwl bod yna hawl dynol sylfaenol i allu rhoi angladd i rywun, a dwi'n derbyn bod yna wastad fiwrocratiaeth... ond jest rhowch lythyr a gadewch i ni ddod â fo adref."

Dywedodd fod perthnasau'n teithio'n rheolaidd i Phuket cyn y pandemig i ymweld â Mr Donoghue, oedd wedi gweithio i heddlu twristiaeth Gwlad Thai.

"Mae wedi bod yn anodd gwybod bod dim un ohonon ni wedi gallu bod wrth ei wely," meddai.

Ffynhonnell y llun, Family photo
Disgrifiad o’r llun,

Roedd perthnasau David Donoghue yn ymweld â Gwlad Thai yn rheolaidd cyn y pandemig

"Roedd hynny ynddo'i hun yn dorcalonnus, a nawr hyn bythefnos yn ddiweddarach - i ddarganfod na allwn ni roi angladd iddo, neu gael ei lwch, mae'n ddychrynllyd.

"Unwaith rydyn ni'n gwybod ein bod wedi gwneud popeth posib, gallwn ni ddechrau galaru ond ar y funud gallwn ni ddim gwneud hynny."

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor, Gymanwlad a Datblygu ddydd Llun: "Rydym yn rhoi cymorth i deulu dyn o Brydain yn dilyn ei farwolaeth yng Ngwlad Thai ac mae ein meddyliau gyda nhw ar yr cyfnod anodd eithriadol yma.

"Mae ein staff mewn cysylltiad gyda'r ysbyty lleol a'r ymgymerwr angladdau i helpu ei deulu gael y gwaith papur angenrheidiol i sicrhau bod ei gorff yn cael ei drin yn unol â'u dymuniadau."

Pynciau cysylltiedig