Disgwyl gohirio Cwpan Rygbi'r Byd 2021 am flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Gwpan Rygbi'r Byd 2021 gael ei ohirio tan y flwyddyn nesaf yn dilyn argymhelliad gan y corff llywodraethu.
Roedd disgwyl i brif gystadleuaeth rygbi menywod gael ei chynnal yn Seland Newydd rhwng 18 Medi ac 16 Hydref.
Ond dywedodd World Rugby bod "sefyllfa heriol Covid" wedi arwain at benderfyniad i awgrymu gohirio.
Fe fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar ôl i fwrdd Cwpan Rygbi'r Byd a phwyllgor gweithredol World Rugby ystyried y mater ar 8 a 9 Mawrth.
Ychwanegodd World Rugby ei fod yn deall y byddai'r argymhelliad yn siom i gefnogwyr a chwaraewyr, ond ei fod yn rhoi'r cyfle gorau i'r gystadleuaeth fod yn llwyddiant.
Dywedodd y datganiad bod y penderfyniad yn seiliedig ar "ddatblygiad ansicr a heriol sefyllfa Covid-19", ac "nad yw'n bosib cynnal amgylchedd i bob tîm fod ar eu gorau".