Y Bencampwriaeth: Caerdydd 4-0 Derby County

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Leandro Bacuna ddwy gôl i'r Adar Gleision nos Fawrth

Mae Caerdydd bellach yn y chweched safle yn y Bencampwriaeth wedi iddyn nhw drechu Derby County o bedair gôl i ddim nos Fawrth.

Wrth groesawu Derby County i Gaerdydd roedd tîm y brifddinas yn llygadu buddugoliaeth ond mae Derby wedi cryfhau cryn dipyn ers i Wayne Rooney gael ei benodi'n rheolwr a'r dasg yn anos nag y mae safle'r timau yn y gynghrair yn awgrymu.

Caerdydd oedd fwyaf penderfynol ac ymosodol o ddechrau'r gêm ac wedi 22 munud fe greodd Joe Bennett gyfle i Leandro Bacuna i blannu'r bêl yn rhwyd Derby gyda'i droed chwith.

Heblaw am arbediadau da gan golwr Derby, Kelle Roos, gallai Kieffer Moore a Sheyi Ojo fod wedi rhoi Caerdydd ymhellach ar y blaen.

Ar ôl deugain munud cafodd Bennett anaf drwg i'w ben-glin a bu'n rhaid iddo gael ei gario o'r cae.

Ar yr hanner roedd Caerdydd yn dal ar y blaen o un gôl i ddim.

Fe ddechreuodd Caerdydd yr ail hanner yn rhagorol ac fe gododd Moore yn uwch na phawb a phenio cic gornel Will Vaulks i'r rhwyd dair munud ar ôl ailddechrau.

Daeth trydedd gôl o fewn deg munud gydag Ojo yn creu cyfle i Bacuna sgorio ei ail gôl.

Fe ddaeth sawl cyfle arall i Gaerdydd ac yn y munudau olaf fe sgoriodd Vaulks y bedwaredd gôl.

Y tri phwynt yn ddiogel i'r tîm cartref a'r Adar Gleision felly wedi codi i'r chweched safle yn y Bencampwriaeth.