Gavin Esler: Oes dyfodol i'r Undeb?
- Cyhoeddwyd
Mae Gavin Esler yn newyddiadurwr adnabyddus a fu'n gweithio fel gohebydd newyddion i'r BBC am flynyddoedd, gan gyflwyno'r rhaglen boblogaidd Newsnight am dros ddegawd.
Mae'n awdur ac yn golofnydd, ac ers gadael y BBC yn 2017 mae wedi mentro i fyd gwleidyddiaeth ei hun. Mae ei lyfr newydd How Britain Ends yn trafod y sefyllfa gyfansoddiadol yn y Deyrnas Unedig heddiw, ac yn gofyn beth all ddigwydd yn y dyfodol.
Gofynnodd BBC Cymru Fyw i Gavin Esler rannu ychydig o'i gasgliadau, a'r oblygiadau fydd gan hyn ar Gymru.
Dydy dilyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad heb fod yr un peth eleni. Mynd i'r gêm fyddai'n ddelfrydol, wrth gwrs. Ond os nad yw hynny'n bosib, mi fyddwn i'n eistedd gyda fy ffrind Seisnig, Martin, a fy ffrind sy'n Wyddel, Marty, mewn tŷ tafarn a chael cwpl o beints yn dadlau am y gêm.
Ond roedd rhaid setlo ar wylio'r gêm gartref a thecstio ffrindiau. Yn ystod gêm Cymru v Lloegr, roedd Martin (y Sais) yn cefnogi Lloegr wrth reswm. Roeddwn i (Albanwr) a'r Gwyddel yn cefnogi… Cymru. Wrth gwrs, Cymru.
Byddwn i'n gallu defnyddio'r esgus mai'r rhesymeg tu ôl hyn yw fy nyddiau yn chwarae rygbi yn yr ysgol tra'n blentyn, ac yn cofio dewiniaeth Barry John, Gareth Edwards a JPR Williams.
Ond fel y gwnaeth gwleidydd Cymreig ddweud wrtha' i unwaith, mae'r Albanwyr, Gwyddelod a'r Cymry'n "chwarae rygbi yn erbyn ei gilydd", ond ar y cae "ry'n ni'n datgan rhyfel yn erbyn Lloegr."
Pan oeddwn i'n ysgrifennu erthygl wythnosol ym mhapur newydd The Scotsman fe wnes i unwaith, yn annoeth, gyfaddef oherwydd bod yr Alban wedi methu (eto) â chyrraedd Cwpan y Byd, y byddwn i'n cefnogi Lloegr.
Roedd yr ymateb chwyrn a ddaeth gan ddarllenwyr The Scotsman yn cynnwys un llythyr rwy'n ei gofio gair am air. Ysgrifennodd y person yma ataf i ddweud y byddai well ganddyn nhw "Satan and all his minions gloriously arrayed" nag unrhyw dîm pêl-droed Lloegr.
'Straen' yn sgil Brexit
Mae'r materion yma, sydd ar yr wyneb i'w gweld yn pitw, yn mynd at galon ein dilema cenedlaethol ('Prydeinig' yn yr achos yma). Lloegr, fel dywedodd y darlledwr Ludovic Kennedy unwaith, yw'r eliffant yng ngwely undeb y Deyrnas Unedig - 84% o'r boblogaeth. Mae Llundain a'r ardal o'i gwmpas yn fwy poblog ac yn fwy pwerus yn economaidd na Chymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda'i gilydd.
Mae Brexit wedi cynyddu'r straen, gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon yn pleidleisio i aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd, a Chymru a Lloegr yn dewis gadael.
Dydy coronafeirws - efallai er syndod - heb ein tynnu at ein gilydd. Gwir, mae'r cynlluniau brechu yn cael eu cynllunio drwy'r Deyrnas Unedig. Ond mae iechyd wedi ei ddatganoli.
Mae gan lywodraethau Caerdydd, Caeredin a Belffast eu ffyrdd eu hunain ac yn mynd ar eu cyflymder eu hunain, ac mae hyd yn oed dinasoedd Seisnig mawr fel Manceinion, Lerpwl a Llundain wedi trio torri eu cwys eu hunain yn y frwydr yn erbyn y pandemig.
Fe ddechreuais fy llyfr newydd 'How Britain Ends' gan fod platiau tectonig y Deyrnas Unedig yn symud. Yr her i'r unoliaethwyr yw fod eu balchder a'u hunanfoddhad yn ein rhwygo i ddarnau.
Maen nhw wedi methu rhoi diffiniad sicr o beth mae'n ei olygu i 'fod yn Brydeinig' heddiw. Ble mae eu gweledigaeth bositif i ailsefydlu y DU yn y 21ain ganrif? Mae wedi ei ailsefydlu ac addasu bob canrif ers ei sefydlu yn 1603 - 1707, 1801,1922... ac mae'n amser ers blynyddoedd i'w ailddyfeisio eto.
Y Deyrnas dal yn 'unedig'?
Hefyd, oes yna unrhywun sydd o ddifri' yn siarad ar ran Teyrnas sy'n wirioneddol Unedig?
Pan fydda i'n trafod arweinyddiaeth Boris Johnson gyda Cheidwadwyr Albanaidd rwy'n eu hatgoffa nhw ei fod yn mynnu ei fod yn 'Geidwadwr Un Genedl'. Yr ateb dwi'n gael yw "wel ie, mae'n rhaid mai'r un genedl honno yw Lloegr".
Mae Aelodau Seneddol yr Ulster Unionist Party yn mynnu fod Mrs Thatcher yn ystyried Gogledd Iwerddon "mor Brydeinig â Finchley", ond bod ffin dollau Boris Johnson sydd wedi ei lleoli ym Môr Iwerddon yn golygu ei fod mor "Brydeinig â Ffrainc".
Mae How Britain Ends hefyd yn her i'r cenedlaetholwyr i ddatgan yn glir sut fyddai Cymru neu Alban annibynnol yn edrych mewn byd sy'n gweld gwledydd mor ddibynnol ar ei gilydd.
Mae cenedlaetholwyr Gwyddelig yn gobeithio gweld eu gwlad yn uno unwaith eto o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae cenedlaetholwyr yng Nghymru a'r Alban wedi gweld cynnydd mewn cefnogaeth, ond mae anawsterau sylfaenol yn dal i fodoli.
Mae Brexit wedi dangos nad mater hawdd oedd tynnu allan o undeb wedi 50 mlynedd, felly sut allwn ni rannu'r Deyrnas Unedig, sydd wedi bodoli ers canrifoedd?
'Diffyg democratiaeth San Steffan'
Mae gen i ddau ateb. Y cyntaf yw sefydlu Teyrnas Unedig ffederal, wedi ei seilio ar fwy o ddatganoli, ac i wir ddiwygio'r sefydliadau, yn enwedig San Steffan. Dydy San Steffan ddim yn cael ei ystyried fel 'the Mother of Parliaments' gan wledydd eraill, ac dydy ein sefydliadau ni ddim 'the envy of the world'.
Mae San Steffan yn hen system wrth-ddemocrataidd sydd wedi dyddio, gafodd ei sefydlu yn ystod yr oes ceffyl a chart, lle mae llywodraeth heddiw - fel rhai Tony Blair a Gordon Brown gynt - yn hawlio mwyafrif enfawr o seddi tra'n cael lleiafrif o'r bleidlais (cafodd y Torïaid ond 43.6% o'r bleidlais yn 2019).
Hefyd, does yna'r un gwladwriaeth fodern Ewropeaidd arall sydd â'u tŷ uchaf yn anetholedig. Mae arbenigwyr o Brydain wedi ysgrifennu cyfansoddiadau i ddwsinau o wledydd eraill, ond yn draddodiadol yn cymryd pleser yng 'ngogoniant' ein cyfansoddiad ni sydd 'heb ei ysgrifennu' (ond mewn gwirionedd, sydd heb ei addasu).
Rhy hwyr i ddiwygio?
Ond fe all fod yn rhy hwyr ar gyfer system ffederal. Mae'r Albanwyr yn teimlo atgasedd (yn sâl i'w stumog bron) am y ffaith bod gwleidyddion wedi addo iddyn nhw mai'r unig ffordd i aros yn yr Undeb Ewropeaidd oedd i bleidleisio 'Na' yn 2014. Dros amser ry'n ni'n gweld bod yr addewidion hynny yn ffals.
Mae Unoliaethwyr yng Ngogledd Iwerddon yn lled-wahanedig i'r Deyrnas Unedig. Yn 1973 pan ymunon ni â'r Undeb Ewropeaidd roedd Gweriniaeth Iwerddon (o edrych ar y cynnyrch domestig gros - GDP) yn llawer tlotach na'r Deyrnas Unedig. Erbyn 2020, mae llawer mwy cyfoethog.
Bydd Cymru, ble mae'r gefnogaeth am annibyniaeth yn tyfu, yn gwneud ei phenderfyniadau ei hun, ond beth bynnag sydd yn digwydd, mi fydd Cymru yn gweld newidiadau mawr yn sgil digwyddiadau mewn llefydd eraill.
Os fydd y Deyrnas Unedig yn newid i 'Cymru a Lloegr', fydd gan yr undeb yma aelodaeth parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig? Rydw i'n amau. Ble fydd yr holl longau tanfor niwclear sydd yn yr Alban ar hyn o bryd yn mynd? Bae Caerdydd? (Na, ond ble?) Am ba hyd fyddai Cymru'n 'flaenoriaeth' gan Loegr wedi ei wanhau?
Mae'r cyn Brif Weinidog Gordon Brown yn awgrymu bod y Deyrnas Unedig dan fygythiad o fod yn wladwriaeth ffaeledig. Mae'r cyn Ganghellor George Osborne yn ofni y gall Boris Johnson 'golli'r Undeb'.
Llyfr yw How Britain Ends, nid proffwydoliaeth, ond mae hefyd yn feirniadaeth o'r bobl sydd yn ymdrochi yn y gorffennol a sy'n methu meddwl am y dyfodol.
Hefyd o ddiddordeb: