Dem. Rhydd.: 'Annibyniaeth yn fwy poenus na Brexit'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Jane DoddsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jane Dodds ei hethol fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn 2017

Byddai annibyniaeth i Gymru "10 gwaith yn fwy cymhleth a 10 gwaith yn fwy poenus na Brexit", meddai arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Wrth annerch cynhadledd rithwir ei phlaid, dywed Jane Dodds y gallai achosi niwed am genedlaethau.

Dywedodd ei bod hi o blaid "Cymru gref, gyfartal a hyderus o fewn y Deyrnas Unedig ffederal".

Ychwanegodd y byddai'n "wirion" i ganolbwyntio ar unrhyw beth ar wahân i adfer o'r pandemig ar hyn o bryd.

Ar hyn o bryd mae gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru un aelod o'r Senedd, sef y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Ni fydd Ms Williams yn sefyll yn yr etholiadau ym mis Mai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae arolygon barn diweddar yn awgrymu fod yr awch am annibyniaeth ar gynnydd yng Nghymru

Dywedodd Ms Dodds wrth y gynhadledd bod cefnogi pobl a busnesau yn flaenoriaethau mawr i helpu Cymru i wella o'r pandemig, a bod Cymru ar "foment dyngedfennol yn ein dyfodol".

Rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau adferiad o "hafoc" Covid, meddai.

Pe bai hi yn y llywodraeth ar ôl etholiadau Senedd mis Mai, byddai ei phlaid yn adeiladu 30,000 o gartrefi fforddiadwy newydd ac yn dileu cyfraddau busnes "annheg".

'Haeddu bywyd urddasol'

Yn ei haraith, dywedodd Ms Dodds: "Ar yr eiliad dyngedfennol hon yn ein dyfodol byddai unrhyw beth heblaw sicrhau ein hadferiad gan Covid a'r hafoc y mae wedi teyrnasu ar bob agwedd ar ein bywydau yn ffôl."

Dywedodd pe bai'r blaid mewn llywodraeth ar ôl etholiadau Mai, byddan nhw'n ymrwymo i adeiladu 30,000 o gartrefi fforddiadwy newydd ac yn ceisio pwerau gan Lywodraeth y DU i dreialu "Incwm Sylfaenol Cyffredinol".

O dan Incwm Sylfaenol Cyffredinol, byddai pob unigolyn yn y wlad yn cael taliad arian parod yn rheolaidd, heb unrhyw ofyniad i weithio na bod yn gymwys ar ei gyfer.

Dywedodd y cyn-Aelod Seneddol dros Aberhonddu a Sir Faesyfed: "Mae Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn golygu na fydd unrhyw un ar ôl heb ddigon o arian i brynu'r hyn sydd ei angen arnyn nhw.

"Ni allwn barhau i weld ciwiau o bobl ar gyfer banciau bwyd, teuluoedd yn ysu am obaith, a phlant sy'n byw mewn tlodi.

"Gall, ac mi fydd, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gwneud yn well i'r teuluoedd hynny sy'n haeddu bywyd urddasol, nid bywyd o fodolaeth enbyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kirsty Williams ydy'r unig aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Senedd Cymru ar hyn o bryd

Dywedodd Ms Dodds hefyd y dylid dileu cyfraddau busnes.

"Nid yw ein strydoedd mawr yn wynebu her y cyfnod clo yn unig, maen nhw'n wynebu her cystadleuwyr sy'n talu llai o dreth, ac yn cyfrannu llai at ein heconomïau lleol," meddai.

"Mae'n bryd creu chwarae teg rhwng y manwerthwr lleol a'r manwerthwr rhyngrwyd byd-eang.

"Cam cyntaf i wneud hynny yw sgrapio'r cyfraddau busnes annheg a hen ffasiwn a rhoi system dreth decach yn eu lle y mae pob busnes yn cyfrannu'n deg ati."