Cyhoeddi wythnosolyn enwadol newydd ar-lein
- Cyhoeddwyd
Bydd Cenn@d - y cylchgrawn cydenwadol newydd - yn "wythnosolyn bywiog a pherthnasol", medd y golygyddion wrth i'r rhifyn cyntaf gael ei gyhoeddi yr wythnos hon.
Mae'r cylchgrawn digidol newydd, dolen allanol yn gyhoeddiad ar y cyd rhwng Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac Undeb y Bedyddwyr a hynny wedi i Seren Cymru a'r Goleuad, cylchgronau print y ddau enwad, ddod i ben.
Yn ôl y golygyddion Watcyn James, Huw Powell-Davies ac Aled Davies "mae Cenn@d yn dwyn y gorau o'r Goleuad a Seren Cymru at ei gilydd i greu cyhoeddiad perthnasol i'n cenhedlaeth" a dywedant eu bod yn edrych ymlaen at gael" clywed lleisiau cyfarwydd cyfranwyr cyson ynghyd â lleisiau newydd".
Mae'r Tyst, wythnosolyn yr Annibynwyr, yn parhau i gael ei argraffu ac mae enwad yr Annibynwyr wedi dewis peidio bod yn rhan o'r fenter newydd.
'Trafod yr hyn sy'n blino a phoeni pobl'
"Fe fuon ni'n trafod y cynllun newydd yn ddwys a dod i'r penderfyniad nad oedd ychydig dudalennau yn ddigon i adlewyrchu bywyd y 400 o eglwysi sydd yn Undeb yr Annibynwyr," meddai Alun Tudur, golygydd Y Tyst.
Wrth gyfeirio at gynnwys Cenn@d, dywed Aled Davies mai'r bwriad yn y pen draw yw trafod pynciau perthnasol a byw.
"'Dan ni isio trafod yr hyn sy'n blino a phoeni pobl, adrodd ar yr hyn sy'n digwydd yn ein capeli, pan fydd modd cynnal digwyddiadau eto, a chynnal deialog ddeallus," meddai.
"Mewn cylchgrawn print fel y Seren ro'dd hi'n cymryd tair wythnos i lythyr ymddangos ac fe fyddai'n cymryd tair wythnos arall i gyhoeddi ymateb - gyda'r Cenn@d bydd modd ymateb yn syth i faterion y dydd."
'Apelio at gynulleidfa newydd'
Ychwanegodd Marian Beech Hughes, cadeirydd panel cyhoeddiadau yr Eglwys Bresbyteraidd bod y cyfnod clo wedi ysgogi cyhoeddiad ar-lein.
"Pan ddaeth y clo mawr - roedd yn amlwg na allen ni barhau i ddosbarthu Y Goleuad o law i law ac felly dyma ei roi ar y we," meddai.
"Wedi cael cymaint o ateb cadarnhaol i hynny dyma barhau â'r newid oedd wedi ei orfodi arnom ni.
"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf 'dan ni wedi gweld pobl oedd wedi cilio o gapeli yn dod nôl i wasanaethau ar Zoom - mae Cenn@d yn cynnig y math yna o gyfle a gobeithiwn apelio at gynulleidfa newydd."
Dywed y golygyddion mai'r hyn sy'n braf yw bod y cyhoeddiad newydd ar gael i bawb am ddim.
Does dim rhaid tanysgrifio fel o'r blaen ond os nag oes rhywun â mynediad i'r we mae modd gwneud trefniadau i gael copi print.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd27 Awst 2015