Y Gynghrair Genedlaethol: Sutton 0-0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i Wrecsam fodloni ar gêm gyfartal ddi-sgôr yn Sutton ddydd Sadwrn.
Roedd hi'n gêm agos iawn gyda'r un tîm yn llwyddo i greu llawer o gyfleoedd o bwys.
Daeth cyfle gorau'r gêm i Sutton yn yr eiliadau olaf, ond aeth peniad Omar Bugiel yn ddiogel i ddwylo'r golwr Christian Dibble.
Ond mae gobeithion Wrecsam am ddyrchafiad yn parhau, gyda'r tîm yn parhau yn safleoedd y gemau ail gyfle yn y Gynghrair Genedlaethol.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn aros yn y pumed safle yn y tabl, tra bod Sutton yn codi i ail.