Pro14: Gweilch 20-31 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Ospreys v DragonsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Llwyddodd y Dreigiau i drechu'r Gweilch mewn gem ddarbi Gymreig gyffrous ym Mhen-y-bont nos Sadwrn.

Yn dilyn pwysau cynnar gan y tîm cartref fe aeth y Dreigiau i lawr i 14 chwaraewr wrth i'r clo Joe Davies gael cerdyn melyn, ond ni lwyddodd y Gweilch i gymryd mantais.

Yn erbyn llif y chwarae, y Dreigiau sgoriodd gyntaf wedi 24 munud gyda chais gan flaenasgellwr Cymru, Aaron Wainwright, a llwyddodd Sam Davies i'w throsi.

Fe wnaeth y Gweilch sgorio eu pwyntiau cyntaf nhw gyda gôl gosb gan Stephen Myler cyn i'r canolwr Keiran Williams ychwanegu cais i'w gwneud yn 10-7 i'r tîm cartref ar yr egwyl.

10 munud i mewn i'r ail hanner fe wnaeth yr asgellwr Jonah Holmes sgorio ail gais y Dreigiau cyn i'r Gweilch daro 'nôl yn syth gyda chais arall gan Williams.

Fe welodd Rhys Davies gerdyn melyn i'r tîm cartref yn fuan wedi hynny, cyn i Ashton Hewitt groesi'r gwyngalch i'r ymwelwyr i'w gwneud yn gyfartal 17-17.

Llwyddodd Myler gyda chic gosb arall i'r Gweilch cyn i Holmes roi'r ymwelwyr ar y blaen gyda'i ail gais i sicrhau pwynt bonws i'r Dreigiau.

Ychwanegodd Hewitt ei ail gais yntau yn y munudau olaf i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r rhanbarth o'r dwyrain.