Amddiffynnwr Cymru Jazz Richards yn arwyddo i Hwlffordd
- Cyhoeddwyd

Y tro diwethaf i Jazz Richards gynrychioli Cymru oedd gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen yn Hydref 2018
Mae amddiffynnwr Cymru, Jazz Richards wedi arwyddo i Glwb Pêl-droed Hwlffordd yn Uwch Gynghrair Cymru.
Cafodd Richards, 29, ei ryddhau gan Gaerdydd ar ddiwedd tymor 2019-20 wedi cyfnod o bedair blynedd yn y brifddinas.
Mae wedi ennill 14 cap dros Gymru, ac roedd yn rhan o'r garfan gyrhaeddodd rownd gynderfynol Euro 2016.
Fe allai wneud ei ymddangosiad cyntaf i Hwlffordd yn erbyn Aberystwyth nos Fawrth.