'Rhaid ymchwilio i sylwadau sinistr cyn-arweinydd'
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi mynegi pryderon ynghylch "camddefnydd posib arian cyhoeddus" yn sgil sylwadau "sinistr" cyn-arweinydd cyngor mewn recordiad cudd.
Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi galw ar gorff arolygu gwariant cyhoeddus i ymchwilio i sylwadau'r Cynghorydd Llafur, Rob Jones, sydd, meddai, yn "cyfeirio at ffafrio prosiectau sy'n cael eu cefnogi gan gynghorwyr Llafur ar gyfer arian cyhoeddus".
Cafodd Mr Jones ei wahardd o'r Blaid Lafur Cymreig ac mae wedi ymddiswyddo fel arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi i'r recordiad gael ei gyhoeddi.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ei fod yn sicr bod Mr Jones wedi "gwneud y peth cywir" wrth ymddiswyddo tra bod ymchwiliadau'n cael eu cynnal.
Nid oedd Mr Jones am wneud sylw pellach i BBC Cymru, gan ddweud bod "y mater yn destun ymchwiliad".
Credir i'r recordiad sain gael ei wneud yn ystod cyfarfod preifat o aelodau Llafur yn ardal Pontardawe yn 2019.
Cyhoeddwyd rhannau o'r cyfarfod dwy awr ddydd Sadwrn ar dudalen Facebook sy'n gwrthwynebu cynlluniau'r cyngor all arwain at greu ysgol ardal a chau pedair ysgol gynradd.
Mewn datganiad ddydd Sadwrn, dywedodd Mr Jones, cynghorydd ward Margam, bod y recordiad wedi'i wneud heb ei wybodaeth na'i ganiatâd.
Roedd y recordiad, meddai, "yn amlwg wedi cael ei olygu er mwyn adlewyrchu'n ddrwg arna i".
Ychwanegodd: "Dydy cynnwys y recordiad ddim yn adlewyrchu fy ngwerthoedd fel unigolyn na gwerthoedd y Blaid Lafur, a dydyn nhw ddim yn cyrraedd y safon sydd i'w ddisgwyl o aelod etholedig.
Dywedodd Mr Jones ei fod wedi ymddiheuro am alw'r Aelod o'r Senedd Plaid Cymru Bethan Sayed yn "fuwch" yn ystod y cyfarfod. Camodd i lawr fel arweinydd cyngor ar ôl gofyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ymchwilio i'r mater.
Yn y recordiad, mae Mr Jones hefyd i'w clywed yn awgrymu, mae'n ymddangos, y byddai'n edrych yn ffafriol ar wario arian cyhoeddus ar brosiectau oedd yn cael cefnogaeth cyd-gynghorwyr Llafur yn hytrach na chynghorwyr gwrthbleidiau.
Dywedodd: "Fyswn i ddim yn neud e'n agored ond yn ddirgel, pe byddai dau gynghorydd Plaid yn dod ata'i a dweud, chi'n gw'bod, 'ry'n ni mo'yn canfod arian ar gyfer hyn ac arian ar gyfer llall' ac yna bod yna brosiect gwrthwynebol byddai cynghorwyr Llafur posib eu mo'yn, pa un ydw i am [anghlywadwy: ply neu plough] arian iddo?"
Ym Medi 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn rhoi £1.8m ar gyfer adfer Amgueddfa Lofaol Cefn Coed, oedd mewn peryg o gau.
Yn y recordiad, mae Mr Jones i'w clywed yn dweud bod cynghorydd annibynnol ward Blaendulais wedi "curo'r drwm dros Gefn Coed am flynyddoedd, a blynyddoedd, a blynyddoedd."
Aeth yn ei flaen: "Dyna pam nes i dorri Steven Hunt yn gyfan gwbl mas o [brosiect] Cefn Coed.
"Mae wedi ymgyrchu am flynyddoedd a blynyddoedd i adfywio Cefn Coed. Felly, yn y lansiad, does dim un [cynghorydd] annibynnol unlle'n agos ato.
"A thra'i fod yn trydar am ei orchestion, doedd dim byd ar ôl iddo drydar amdano ac roedd hi'n bythefnos cyn iddo hyd yn oed crybwyll Cefn Coed oherwydd ni allai ddweud dim byd am y datblygiad.
"A dyna sy'n rhaid i chi wneud, rhaid i chi eu hatal rhag cael yr ocsigen."
'Rhan fach o rywbeth ehangach?'
Cyfeiriodd Adam Price at y recordiad yn y Senedd ddydd Mawrth, gan ddweud ei fod "yn datgelu ffordd sinistr o fynd o gwmpas gwleidydda" gan fod Mr Jones "yn cyfeirio at ffafrio prosiectau sy'n cael eu cefnogi gan gynghorwyr Llafur ar gyfer arian cyhoeddus".
Ychwanegodd Mr Price: "Rwyf wedi ysgrifennu at yr Archwilydd Cyffredinol, Prif Weinidog, yn gofyn nid yn unig ei fod yn ymchwilio i sylwadau'r Cynghorydd Jones yn y recordiad ond hefyd yn sicrhau gwiriadau cadarn i ddiogelu rhag y camddefnydd posib o arian cyhoeddus i ddibenion gwleidyddiaeth plaid o fewn awdurdodau lleol Cymru.
"Ydych chi'n hyderus nad megis rhan fach o rywbeth ehangach yw achos Castell-nedd Port Talbot ac nad oes gan Gymru ei phroblem 'arian i gydweithwyr' ei hun dan y Blaid Lafur?"
Atebodd Mark Drakeford: "Dydy ceisio awgrymu staen cyffredinol o un digwyddiad i'r hyn sy'n digwydd ar draws Cymru, ddim yn ymddangos i mi yn ffordd synhwyrol neu gymesur o ymateb i hynny."
Ychwanegodd: "Roeddwn yn bryderus i ddarllen yr hyn roedd y Cynghorydd Jones wedi ei ddweud, ac rwy'n siŵr ei fod wedi gwneud y peth cywir trwy gamu i lawr o arweinyddiaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot tra bo'r sylwadau hynny'n cael eu harchwilio'n briodol gan y swyddog monitro a'r Ombwdsmon yma yng Nghymru.
"Dyna pam y mae wedi ei wahardd o'i aelodaeth o'r Blaid Lafur tra bo'r ymholiadau hynny'n cael eu cwblhau.
"Rwy'n meddwl y byddai'n synhwyrol i unrhyw un aros nes canlyniad yr ymholiadau hynny cyn dod i gasgliadau ynghylch beth dyllai ddigwydd nesaf."
'Dim lle i gasineb at ferched'
Amlinellodd Mr Drakeford record Llywodraeth Cymru o fuddsoddi mewn ysgolion awdurdodau lleol ar draws Cymru fel esiampl o sut "does dim awgrym posib bod arian yn cael ei ddefnyddio gan y Llywodraeth Lafur hon ar sail pleidiau gwleidyddol".
Gofynnodd Mr Price wrth Mr Drakeford sawl tro i "gondemnio ar goedd... casineb dychrynllyd at fenywod" Mr Jones yn ei sylw am Bethan Sayed.
Atebodd Mr Drakeford: "Does dim lle i wreig-gasineb yn unrhyw rhan o fywyd Cymru nag o fewn unrhyw blaid gwleidyddol.
"Rwy'n cofio Mr Price ei hun yn lansio ymchwiliad i gasineb at ferched o fewn Plaid Cymru ym Mehefin neu Orffennaf 2019."Rwyf wedi edrych i weld a alla'i ganfod canlyniad yr ymchwiliad hwnnw ond nid wyf wedi ei ffeindio fy hun, a gallai hynny olygu fy mod heb edrych yn y lle cywir.
"Ond yn union fel yr oedd yntau'n gywir, rwy'n siŵr, i gynnal yr ymchwiliad yna yn ei blaid, felly mae'n gywir y dylid ymchwilio i'r honiadau yma yn erbyn y Cynghorydd Jones ac yn sicr fydd canlyniadau'r ymholiadau hynny'n cael eu cyhoeddi."
Mewn datganiad ar Twitter yn dilyn yr hyn a ddywedwyd yn y Senedd, ysgrifennodd Bethan Sayed ei bod yn "eithaf gofidus na all y Prif Weinidog ddweud bod y sylw yn fy erbyn yn gasineb at fenywod gan gyn-arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot heddiw yn y Senedd. Ddiwrnod wedi Diwrnod Rhyngwladol y Merched".
"Cast am gast gawson ni yn hytrach ynghylch hen faterion o fewn Plaid ar y mater yma. Dwi'n anobeithio! O ddifri, mae ffordd bell i fynd. Teyrngarwch plaid sy'n teyrnasu i Lafur Cymru."
Adolygiad annibynnol
Daeth cadarnhad gan brif weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot y bydd Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymchwili i gynnwys y tâp sain cyfan, ac na fyddai'r cyngor yn gwneud sylw pellach.
Dywedodd Karen Jones: "Mae gan y cyngor bolisi a strwythur mewn lle i reoli trefniadau gwneud penderfyniadau y mae'n rhaid i bob cynghorydd a swyddog lynnu atyn nhw.
"O ystyried y diddordeb cyhoeddus yn nigwyddiadau'r wythnos ddiwethaf rwyf wedi cychwyn adolygiad annibynnol o'r systemau presennol sy'n cefnogi gwneud penderfyniadau ar fuddsoddi cyfalaf, a'r protocol sy'n rheoli'r berthynas rhwng cynghorwyr a swyddogion... bydd yr adolygiad yn cychwyn ar unwaith a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i bwyllgor rheolaeth y cyngor ynghyd ag unrhyw argymhellion priodol.
"Mae'r adolygiad yn ychwanegol i'r gwaith y bydd yr Ombwdsman yn ei wneud. Bydd yn cael ei arwain gan Rod Alcott - cyn reolwr gyda Swyddfa Archwilio Cymru - gyda chymorth Jack Straw, cyn brif weithredwr Cyngor Abertawe."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2021