Rygbi: Dau newid yn nhîm Cymru i wynebu'r Eidal

  • Cyhoeddwyd
Gareth DaviesFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Davies fydd yn dechrau yn safle'r mewnwr

Mae dau newid yn nhîm Cymru i wynebu'r Eidal ym Mhencamwpriaeth y Chwe Gwlad yn Rhufain ddydd Sadwrn.

Oherwydd anaf i'r mewnwr, Kieran Hardy, ei gyd-chwaraewr gyda'r Scarlets, Gareth Davies, fydd yn dechrau'r gêm, ac yn dilyn ei gais yn erbyn Lloegr, bydd ail-reng Gleision Caerdydd, Cory Hill, hefyd yn dechrau.

Mae hynny'n golygu bod Adam Beard allan o'r garfan, a Jake Ball ymysg yr eilyddion, ac yn gobeithio ennill ei 50fed cap.

Mae'r mewnwr Lloyd Williams hefyd ar y fainc oherwydd anafiadau i Kieran Hardy a Tomos Williams.

Ar ôl cipio'r Goron Driphlyg gyda'r fuddugoliaeth gofiadwy dros y Saeson, mae tîm Wayne Pivac angen dwy fuddugoliaeth arall i sicrhau'r Gamp Lawn - rhywbeth nad oedd neb wedi'i ragweld cyn y gystadleuaeth.

"Mae tair allan o dair yn ddechrau gwych ond mae digon i'w wneud a digon i weithio arno," meddai Wayne Pivac.

"Rydym wedi cael pythefnos i adeiladu at y gêm, wedi ymarfer yn dda, ac yn edrych ymlaen yn arw at y bedwaredd rownd,"

Tîm Cymru i wynebu'r Eidal

Olwyr: Liam Williams; Louis Rees-Zammit, George North, Jonathan Davies, Josh Adams; Dan Biggar, Gareth Davies. Blaenwyr: Wyn Jones, Ken Owens, Tomas Francis, Cory Hill, Alun Wyn Jones (capt), Josh Navidi, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Elliot Dee, Rhys Carre, Leon Brown, Jake Ball, Aaron Wainwright, Lloyd Williams, Callum Sheedy, Willis Halaholo.