Ymdrech 'ffantastig' yn hwb i fusnesau'r Wyddgrug
- Cyhoeddwyd
Mae tref Yr Wyddgrug yn ffynnu er gwaetha'r pandemig, gyda 22 o fusnesau wedi eu sefydlu neu ehangu yn ystod 2020, yn ôl cyngor y dref.
Mae nifer o'r busnesau newydd yn rhai annibynnol ac mae mwy ohonynt ar fin agor eleni, gan fynd yn groes i'r drefn mewn sawl rhan o'r wlad.
Er mwyn rhoi hwb ychwanegol i fusnesau, mae Cyngor Tref yr Wyddgrug wedi cyhoeddi gwefan newydd, dolen allanol gyda'r bwriad o hyrwyddo'r neges i siopa'n lleol.
Mae gwefan Yr Wyddgrug yn Llwyr yn arddangos yr ystod o siopau a busnesau sydd yn y dref gan hefyd hyrwyddo'r neges i siopa'n lleol.
Bydd y wefan hefyd yn cynnwys gwybodaeth am beth fydd yn mynd ymlaen yn y dref pan fydd digwyddiadau'n cael eu caniatáu unwaith eto.
Ysbryd cymunedol
Er bod saith busnes wedi cau'n barhaol, dywedodd Joanna Douglass, swyddog gyda Chyngor Tref Yr Wyddgrug, bod y gefnogaeth i fusnesau lleol yn adlewyrchu "ysbryd cymunedol ffantastig" y dref.
"Rwy'n edmygu'r ysbryd cymunedol y mae nifer o drigolion a busnesau wedi ei arddangos yn ystod y pandemig a'r ffordd y mae masnachwyr wedi addasu mor gyflym i gynorthwyo'r gymuned ar adegau o'r fath," meddai.
Dywedodd Ms Douglass fod nifer o'r busnesau wedi datblygu gwefannau eu hunain, yn ogystal â darparu gwasanaethau clicio a chasglu.
"Ni fu erioed yn bwysicach i siopa'n lleol, i gadw ein trefi'n fywiog ac i roi hwb i'r economi leol," meddai.
Cynllun talebau llwyddiannus
Yn yr Hydref, lansiodd Yr Wyddgrug yn Llwyr gynllun talebau i annog pobl i wario'n lleol yn ystod y pandemig.
Yn ôl Maer Yr Wyddgrug, Teresa Carberry, mae'r fenter hon wedi bod yn "lwyddiant aruthrol".
"Hyd yn hyn, mae bron i £12,000 o dalebau wedi'u gwerthu ac rydym yn parhau i dderbyn archebion ar gyfer y talebau, felly mae yna awydd cryf i siopa'n lleol er y cyfnod clo presennol.
"Ond gorau oll, byddwch chi'n helpu i gefnogi busnesau lleol Yr Wyddgrug ac yn cadw arian yn yr economi leol," meddai.
Bydd y talebau, dolen allanol yn ddilys tan 30 Mehefin a gellir eu gwario mewn 69 o fusnesau sy'n cymryd rhan yn y fenter.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2020