Chwe Gwlad: Golwg ar un o 'hoelion wyth' yr ymgyrch i Gymru
- Cyhoeddwyd
'Does unman yn debyg i adra' yw geiriau'r gân enwog gan Gwyneth Glyn ac un fyddai'n siŵr o gyd-fynd a hynny yw prop Cymru a'r Scarlets Wyn Jones.
Wedi'i godi a'i fagu ar fferm Clynmawr yng Nghil-y-cwm ger Llanymddyfri, mae'r cysylltiad â chefn gwlad yn rhedeg yn ddwfn yn y teulu a defnyddio bôn braich yn y parlwr godro yn ail natur.
Doedd y cyfnod clo ddim yn rhwydd i sawl chwaraewr ac roedd y rhwystredigaeth o beidio bod ar y cae a chael gwneud yr hyn oedd yn naturiol yn seicolegol anodd. Ond i eraill roedd yn gyfle i ailgynnau'r fflam.
Cadw'n ffit ar y fferm
"I fod yn onest nes i fwynhau'r cyfnod clo - roedd cael bod nôl ar y fferm yn gweithio a helpu cynnal bywoliaeth y teulu yn fodd i ddianc o realiti'r sefyllfa," medd Wyn.
"Mi oeddwn i'n brysur iawn ac roedd hynny'n help i gadw'r corff yn ffit ac yn bwysig i'r meddwl hefyd - roedd yn fuddiol iawn a dweud y gwir, wrth gwrs o'n i'n colli trefn ymarfer a chael cwrdd lan da'r bois ond i fi yn bersonol mi oedd e'n gyfle i wneud rhywbeth gwahanol - cyfle na fyddwn wedi ei gael fel arall."
Ma' Wyn bellach yn byw ger y fferm ar lecyn yn Nantfforest ac yn hynny o beth mae'n dechrau edrych tua'r dyfodol pan fydd angen creu bywoliaeth wedi i'r rygbi ddod i ben.
"Nes i raddio yn Amaeth a Gwyddorau Anifeiliaid o Brifysgol Aberystwyth. Nes i fwynhau fy nghyfnod yn y flwyddyn gyntaf yn Neuadd Pantycelyn ac roedd yn bwysig i mi gael cymhwyster tu fas i rygbi ac astudio ym myd amaeth oedd y peth naturiol.
"Ma'n rhaid cynllunio at y dyfodol. Mae gyrfa chwaraewr proffesiynol yn gallu bod yn fyr iawn ac felly drwy gymryd y camau yma dwi'n gobeithio bydd na rhywbeth i afael ynddo pan fyddai'n hongian y sgidiau lan."
Disgwyliadau uchel
Yn ddiymhongar oddi ar y cae, does fawr o bethau yn ei boeni hyd yn oed pan nad yw'r canlyniadau mor ffafriol ag sydd wedi bod yn ddiweddar.
"Mae'n rhyfedd pa mor gloi ma'r sefyllfa yn gallu newid - y llynedd roedd y tîm o dan bwysau, ond o'dd pawb yn hyderus byddai pethe'n newid.
"Mae 'na ddisgwyliadau o ennill pob gêm ar y lefel rhyngwladol ble gyda'r clwb neu ranbarth gewch chi sawl cyfle i daro nôl ar ôl colli - dyw'r amser 'na ddim gyda chi pan yn cynrychioli Cymru, ry'n ni'n deall hynny."
Mae disgwyl i'r prop modern wneud gymaint yn fwy bellach nag angori'r sgrym, a chario ac adennill meddiant yn ddisgwyliadau hanfodol, ond heb sylfaen does dim gobaith... a dyna ble ma'r maen prawf.
"Y safle gosod yw fy nghryfder dyna'r peth pwysig i mi - ma' disgwyl neud popeth y dyddie yma ond y jobyn cyntaf yw y sgrym.
"Ma' fe'n grêt bod cymaint o'r Scarlets yn chwarae yn y rheng flaen ac mae bod wrth ochr Samson, Ryan a Ken Owens yn help - y'n ni'n gyfarwydd â'n gilydd ac yn gwybod y pethe bach ma'r person arall yn 'neud.
"I fod yn deg mae'r safleoedd gosod wedi mynd yn dda... roedd y lein rhywfaint yn shigledig yn erbyn Iwerddon ond ni 'di gweithio'n galed yn ymarfer a ni'n bles ar y cyfan."
Gobaith i'r Llewod?
A Chymru bellach yn gweld ffrwyth eu llafur ac yn tanio o dan Wayne Pivac mae perfformiadau'r prop wedi creu argraff, a nifer o wybodusion eisoes wedi'i gynnwys yng ngharfan y Llewod pe bai yna gyfres yn digwydd eleni yn erbyn De Affrica.
Ond am y tro ma'r ffocws yn llwyr ar yr Eidalwyr yn y Stadio Olimpico.
Ennill ddydd Sadwrn a bydd y sylw'n cynyddu a Champ Lawn ar y gorwel.
Heb os ma' Wyn Jones wedi bod yn un o'r hoelion wyth mewn ymgyrch lwyddiannus hyd yn hyn - ond dyw'r clod a'r sylw ddim yn dod yn rhwydd i'r gŵr yma sydd yr un mor hapus ar y tir amaeth ag ydyw ar y cae rhyngwladol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2019