Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2021: Yr Eidal 7-48 Cymru

  • Cyhoeddwyd
KenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y bachwr Ken Owens yn cael ei longyfarch ar ôl sgorio un o'i ddau gais

Mae Cymru gam yn nes at Gamp Lawn annisgwyl ar ôl buddugoliaeth ysgubol yn erbyn Yr Eidal yn Rhufain.

Fe sgoriodd tîm Wayne Pivac saith cais i sicrhau pwynt bonws, wrth i'r Eidalwyr golli'n drwm unwaith eto.

Mae'r sylw nawr yn troi at y gêm dyngedfennol yn erbyn Ffrainc nos Sadwrn nesaf.

Cafodd dau chwaraewr eu hanfon i'r cell cosb i'r tîm cartref, ond fe sgoriodd Monty Ioane gais gysur yn yr ail hanner.

Er hynny, ni fydd y perfformiad yma wedi gwneud unrhyw beth i argyhoeddi'r bobl sy'n galw am gael gwared ar yr Azzurri o'r gystadleuaeth.

Roedd Cymru, er gwaethaf safon y gwrthwynebwyr, yn wych o'r munud gyntaf.

Roedden nhw ar y blaen 27-0 ar yr egwyl, diolch i geisiau gan Josh Adams, Taulupe Faletau, a dau gan Ken Owens.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Clwb Rygbi

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Clwb Rygbi

Fe sgoriodd George North, Callum Sheedy a Louis Rees-Zammit yn yr ail hanner i roi sglein ar y canlyniad.

Fe allai'r fuddugoliaeth wedi bod hyd yn oed yn fwy cyfforddus, ond fe gafodd ceisiau gan Rees-Zammit ac Adams eu dileu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Louis Rees-Zammit bellach wedi sgorio pum cais mewn wyth gêm ryngwladol

Bydd gan Ffrainc a'r Alban gêm i'w chwarae o hyd ar ôl i'w gêm yn y drydedd rownd gael ei gohirio oherwydd achosion coronafeirws yng ngwersyll Ffrainc.

Ond mae gan Gymru gyfle i greu hanes y penwythnos nesaf gyda buddugoliaeth yn Stade de France, lle gallen nhw sicrhau ail Gamp Lawn mewn tair blynedd.

Mae'r rhagolygon yn dda gyda Chymru eisoes wedi ennill eu pumed Goron Driphlyg ers 2000.

Ar bob un o'r achlysuron blaenorol, maen nhw wedi mynd ymlaen i selio'r Gamp Lawn.

Mae'n drawsnewidiad rhyfeddol o gymharu a phencampwriaeth cyntaf Wayne Pivac wrth y llyw, pan orffennodd Cymru'n bumed yn y tabl.

Dim ond tair buddugoliaeth mewn 10 gêm gafodd Cymru yn 2020, ond maen nhw eisoes wedi cael buddugoliaethau nodedig yn erbyn Iwerddon, Yr Alban a Lloegr.

Efallai y bydd hefyd yn ddiwrnod arbennig i'r capten Alun Wyn Jones a allai ddod y Cymro cyntaf i ddathlu pedwar Camp Lawn.

Seren y gêm: Josh Navidi

Cymru

Liam Williams; Louis Rees-Zammit, George North, Jonathan Davies, Josh Adams; Dan Biggar, Gareth Davies; Wyn Jones, Ken Owens, Tomas Francis, Cory Hill, Alun Wyn Jones (capt), Josh Navidi, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Elliot Dee, Rhys Carre, Leon Brown, Jake Ball, Aaron Wainwright, Lloyd Williams, Callum Sheedy, Willis Halaholo.

Yr Eidal

Jacopo Trulla, Mattia Bellini, Juan Ignacio Brex, Carlo Canna, Montanna Ioane, Paolo Garbisi, Stephen Varney; Danilo Fischetti, Luca Bigi (capt), Giosue Zilocchi, Niccolo Cannone, David Sisi, Sebastian Negri, Johan Meyer, Michele Lamaro.

Eilyddion: Oliviero Fabiani, Andrea Lovotti, Marco Riccioni, Marco Lazzaroni, Maxime Mbanda, Marcello Violi, Federico Mori, Edoardo Padovani.