Cymru v Yr Eidal mewn rhifau
- Cyhoeddwyd

Y penwythnos yma mae Cymru'n herio'r Eidal yn y Stadio Olimpico, Rhufain, ym mhedwaredd rownd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2021.
Mae Cymru wedi enwi carfan gryf a phrofiadol ar gyfer y gêm, gan wybod y bydd buddugoliaeth yn arwain at gêm anferthol ym Mharis ar gyfer y Gamp Lawn.
Y disgwyliad gan y rhan fwyaf o bobl yw y bydd Cymru'n ennill yn Rhufain, a hynny'n gymharol hawdd. Ond mae Cymru wedi colli yno o'r blaen, ac fe fydd garfan Wayne Pivac yn ymwybodol o hynny wrth geisio am y cyfle i chwarae gêm Camp Lawn yn erbyn Ffrainc.
Felly beth yw hanes y gemau rhwng Cymru a'r Eidal?
Canlyniadau ben-ben
Mae Cymru a'r Eidal wedi wynebu ei gilydd 29 o weithiau ers 1994. Yn y gemau yna mae Cymru wedi ennill 26, yr Eidal ennill dwywaith, gyda un gêm gyfartal yn 2006.

Yr asgellwr Shane Williams yn dianc rhag amddiffynwyr Yr Eidal, 12 Chwefror 2005. Enillodd Cymru'r gêm 8-38 ar y ffordd i ennill y Gamp Lawn gynta' i'r genedl ers 1978
Pwyntiau
Yn y 29 gêm rhwng Cymru a'r Eidal mae Cymru wedi sgorio cyfanswm o 992 o bwyntiau, gyda'r Eidal wedi sgorio 454.
Daeth buddugoliaeth fwyaf Cymru dros yr Eidal yn 2016 pan sgoriodd Cymru naw cais i ennill 67-14 yng Nghaerdydd.

Ross Moriarty yn croesi ar gyfer seithfed cais y dydd, 19 Mawrth 2016 (cafodd Moriarty ddau gais y prynhawn hwnnw)
Y gêm gyntaf
Yn y Stadiwm Cenedlaethol yng Nghaerdydd ar 12 Hydref, 1994 oedd y gêm gyntaf rhwng Cymru a'r Eidal. Roedd Cymru newydd ennill Pencampwriaeth y Pum Gwlad, gyda'r gêm yma'n gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd yn Ne Affrica yn 1995.
Ymhlith aelodau carfan Cymru'r flwyddyn honno oedd Rupert Moon, Nigel Walker, Gareth Llewellyn a Neil Jenkins. Ond roedd y canlyniad yn ddigon agos, gyda Chymru'n ennill 29-19.

'Y Tarw', Emyr Lewis, yn arwain yr ymosod yn y gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad
Colli yn Rhufain
Cafodd y ddwy gêm a gollodd Cymru yn erbyn yr Eidal eu chwarae yn y Stadio Flaminio yng ngogledd orllewin Rhufain, yn 2003 a 2007. Ers 2011 mae'r tîm cenedlaethol yn chwarae yn y Stadio Olimpico - mesur dros dro oedd hwn i fod ond mae'n debyg bod y garfan yn hapus i setlo yno.
Collodd Cymru yn y gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2003, yn Rhufain o 30-22. Fe aeth carfan Steve Hansen ymlaen i ennill y wobr dydi'r un tîm ei eisiau, sef y Llwy Bren.
Yn 2007 fe gollodd Cymru unwaith eto, 23-20. Sgoriodd Mauro Bergamasco, a oedd yn flaenasgellwr yn arferol ond yn chwarae fel canolwr, gyda thri munud o'r gêm ar ôl.
Cafodd Gymru gic gosb hwyr, ond wedi i'r dyfarnwr ddweud bod yna ddigon o amser, penderfynodd Cymru fynd am linell, a pheidio rhoi cic at y pyst a fyddai wedi bod yn driphwynt gymharol syml.
Ond yna fe chwibanodd y dyfarnwr Chris White i nodi bod y gêm ar ben, a doedd carfan Cymru ddim yn hapus. Dim ond buddugoliaeth yn erbyn Lloegr yn rownd ola'r gystadleuaeth a olygodd bod Cymru'n osgoi'r llwy bren - Yr Alban gafodd yr anrhydedd y flwyddyn honno.

Gareth Thomas yn dadlau gyda'r dyfarnwr Chris White yn dilyn diweddglo dramatig i'r gêm yn y Stadio Flaminio yn 2007
Chwaraewyr nodedig o'r Eidal
Mae chwaraewyr gorau erioed yr Azzurri'n cynnwys y cefnwr Andrea Masi, y blaenasgellwr Mauro Bergamasco, y prop Martin Castrogiovanni, y mewnwr Alessandro Troncon, a'r dewin o faswr, Diego Dominguez.

Diego Dominguez ac Alessandro Troncon yn dathlu buddugoliaeth gyntaf erioed yr Eidalwyr dros Gymru, Rhufain, 15 Chwefror 2003
Ond mae'n debyg mai'r chwaraewr gorau erioed i gynrychioli'r Eidal yw Sergio Parisse.
Enillodd Parisse 142 o gapiau dros yr Eidal rhwng 2002 a 2019. Mae'n drydydd yn rhestr y chwaraewyr gyda'r nifer mwya' o gapiau erioed, tu ôl i Alun Wyn Jones (155) ac Richie McCaw (148). Parisse sydd yn dal y record am y nifer mwyaf o gapiau Chwe Gwlad gyda 69 ymddangosiad, gan ddechrau pob un o'r gemau.
Cafodd ei enwebu ar restr fer IRB ar gyfer chwaraewr gorau'r byd ddwywaith, yn 2008 ac yn 2013 - yr unig Eidalwr i gael ei enwebu erioed.
Roedd Parisse yn chwaraewr medrus, cyflym a chryf, ac mae'n cael ei ystyried fel un o'r wythwyr gorau erioed.

Sergio Parisse yn chwarae'n erbyn Cymru yn Rhufain yn 2017
Yr Eidalwr Cymraeg
Cafodd Stephen Varney, mewnwr yr Eidal, ei eni yng Nghaerfyrddin a chafodd ei fagu yn Sir Benfro. Roedd yn chwarae dros dîm ieuenctid Crymych ond oherwydd bod teulu o ochr ei fam yn dod o'r Eidal mae'n gymwys i chwarae drostynt.
Mae'n chwarae dros dîm Gaerloyw, ac yn un o ddau chwaraewr yng ngharfan yr Eidal sy'n chwarae tu allan i'r wlad - gyda'r prop Pietro Ceccarelli yn chwarae dros Brive. Varney a'i gyd-Eidalwr Riccardo Favretto yw'r ddau chwaraewr ifancaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Stephen Varney yn chwarae dros yr Eidal yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, 13 Chwefror 2021
Y gwahaniaeth mewn profiad
Mae pob aelod o garfan yr Eidal o dan 30 mlwydd oed, gyda dim ond dau chwaraewr wedi cael 50 cap neu fwy - Tommaso Allan (61) a Carlo Canna (50).
Mae gan Cymru, ar y llaw arall, 11 chwaraewr sydd wedi ennill dros 50 o gapiau, gyda Jake Ball yn cyrraedd y garreg filltir os daw i'r cae yn Rhufain.
Alun Wyn Jones, wrth reswm, yw'r chwaraewr mwyaf profiadol o'r ddau dîm, ac fe enillodd ei gap cyntaf fis ar ôl pen-blwydd Stephen Varney yn bump oed.
Cawn weld os fydd profiad tîm Cymru'n ddigon i sicrhau buddugoliaeth yn Rhufain.

Hefyd o ddiddordeb: