Cynllun ynni morol Doc Penfro yn hollti barn yn lleol

  • Cyhoeddwyd
Hen Ddoc Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Un o’r hen ddociau oedd yn cael eu defnyddio i adeiladu a thrwsio llongau yn Noc Penfro

Mae arbenigwr ar hanes morol wedi rhybuddio y gallai cynllun i ddatblygu ynni morol yn Noc Penfro gael effaith "gatastroffig" ar y Dociau Brenhinol hanesyddol yn y dref.

Mae'r cynlluniau wedi cael eu cyflwyno gan Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, ac maen nhw'n rhan o brosiect ehangach gwerth £60m i ddatblygu ynni morol yn Sir Benfro - un o brosiectau Dinas Rhanbarth Bae Abertawe.

Mi allai Ardal Forol Doc Penfro greu 1,800 o swyddi llawn amser yn Sir Benfro.

Fe sefydlwyd y Dociau Brenhinol yn Noc Penfro ym 1814, a dyma'r unig un o'i fath yng Nghymru.

Cafodd 250 o longau eu hadeiladu yn y dociau rhwng 1816 a 1926 ac yn ddiweddarach fe ddaeth Doc Penfro yn gartref i'r awyrennau Sunderland enwog yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Bwriad y cais yw datblygu cyfleusterau i adeiladu a pharatoi dyfeisiadau ar gyfer ynni morol.

'Cynnig cymaint o gyfleoedd'

Yn ôl Jess Hooper, rheolwr cynllun ar gyfer Ynni Morol Cymru, mae'r cais cynllunio yn Noc Penfro yn allweddol ar gyfer twf y diwydiant yn lleol.

"Mae'r isadeiledd yn allweddol. Fe fydd y gwaith adeiladu yn digwydd ar y lan, ac mae angen creu cyfleusterau newydd i greu pont rhwng y lan a'r môr," meddai.

"Mae hwn yn gynllun allweddol. Mae'n cynnig cymaint o gyfleoedd o ran swyddi ac i bobl ifanc.

"Ar gyfer y gigawat cyntaf o drydan fydd yn cael ei gynhyrchu gan dyrbeini ar y môr, fe fydd 1,100 o swyddi yn cael eu creu yn Sir Benfro."

Disgrifiad o’r llun,

O dan y cynlluniau bydd y doc sych yn cael ei orchuddio ar gyfer gwaith adeiladu

Serch hynny, mae nifer o gyrff treftadaeth wedi lleisio eu gwrthwynebiad huawdl i'r cynlluniau.

O dan y cynlluniau, fe fydd llithrfeydd, y timber pond a'r doc sych yn cael eu gorchuddio ar gyfer gwaith adeiladu.

Mae'r Gymdeithas Fictorianaidd, Y Grŵp Sioraidd, Cyngor Tref Doc Penfro, Y Gymdeithas Henebion ac Achubwch Treftadaeth Prydain i gyd wedi cyflwyno gwrthwynebiad ffurfiol i'r cais cynllunio.

'Pam cael gwared arnyn nhw?'

Dywedodd Dr Ann Coats, cadeirydd Cymdeithas Dociau'r Llynges, y byddai'r cynllun yn arwain at niwed "gatastroffig" i dreftadaeth y Dociau Brenhinol yn Noc Penfro.

"Pan ydych chi yn dymchwel hanner y llithrfeydd a'u llenwi, ac yn gwneud yr un peth gyda'r dociau sych, dyw hi ddim yn bosib eu cael nhw 'nôl," meddai.

"Does neb erioed wedi llwyddo i ddangos bod modd dadwneud y broses. Ry'n ni yn sôn am ddinistrio adeiladau cofrestredig.

"Pam cael gwared arnyn nhw? Dyma'r rheswm pam yr adeiladwyd Doc Penfro."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andy Jones mai ynni morol ydy'r "cam nesaf" yn esblygiad y dociau

Dywedodd prif weithredwr awdurdod y porthladd, Andy Jones, bod y cynlluniau yn rhan o "esblygiad" y dociau dros y canrifoedd.

"Ynni morol yw'r cam nesaf yn y broses," meddai.

"Mae hi'n amhosib datblygu cyfleusterau modern i borthladd heb gael effaith, ac felly o'r cychwyn cyntaf, ry'n ni wedi gweithio gyda'r awdurdod lleol, Cadw a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyn lleied o effaith a phosib."

Mae awdurdod y porthladd yn dweud y bydd y gwaith adeiladu yn cael ei wneud mewn ffordd sydd yn diogelu'r adeiladau hanesyddol, fel y gellid eu datgelu unwaith eto yn y dyfodol.

'Edrych mewn ffordd strategol'

Yn ôl William Wilkins, wnaeth arwain y gwaith o adfer plasty a gerddi Aberglasne yn Sir Gaerfyrddin, mae angen cynllun strategol ar gyfer y Dociau Brenhinol.

"Mae angen edrych ar y dociau mewn ffordd strategol er mwyn ystyried beth mae'n medru cynnig mewn termau addysgol a thwristiaeth," meddai.

"Mi allai gynnig cryn dipyn yn fy marn i."

Mae disgwyl i'r cais cynllunio gael ei ystyried gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Penfro yn ystod y misoedd nesaf.