Arweinydd newydd i Gyngor Castell-nedd Port Talbot

  • Cyhoeddwyd
Adeilad Cyngor Castell-nedd PTFfynhonnell y llun, LDRS

Mae'r Cynghorydd Edward Latham - o'r Blaid Lafur - wedi cael ei benodi yn arweinydd newydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2021/22.

Fe ddaeth y Cynghorydd Latham yn arweinydd dros dro wedi i'r arweinydd blaenorol, Rob Jones, gael ei wahardd o'r rôl yn gynharach ym mis Mawrth ar ôl galw Aelod o'r Senedd yn "fuwch".

Yn dilyn y digwyddiad fe wnaeth Bethan Sayed AS alw am "ymchwiliad llawn a brys" i'r mater.

Dywedodd Rob Jones bod y recordiad yn 2019 wedi ei olygu i'w wneud i edrych yn ddrwg, ac nad oedd yn "adlewyrchu ei werthoedd" ac ychwanegodd nad oedd yn ymwybodol bod y cyfarfod ym Mhontardawe yn cael ei recordio.

Mae'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus yn ymchwilio i'r mater.

Cafodd y Cynghorydd Leanne Jones - o'r Blaid Lafur - ei phenodi yn ddirprwy ac mewn pleidlais ar wahân, cafodd y Cynghorydd John Warman ei benodi yn faer Castell-nedd Port Talbot a hynny am y trydydd tro yn ystod ei yrfa fel cynghorydd sir.