Biliau Ardal Gwella Busnes Caerfyrddin yn codi gwrychyn

  • Cyhoeddwyd
Caerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o fusnesau canol y dref sydd wedi methu agor ers tri mis oherwydd cyfyngiadau coronafeirws

Mae rhai o fusnesau Caerfyrddin yn ystyried cymryd camau cyfreithiol ar ôl cael biliau yn gofyn am daliadau i ariannu Ardal Gwella Busnes yn y dref.

Ychydig wythnosau cyn dechrau'r pandemig yn 2020, fe bleidleisiodd mwyafrif o fusnesau'r dref dros sefydlu ardal gwella busnes yng Nghaerfyrddin.

Mae ardaloedd tebyg yn bodoli mewn rhyw 15 o drefi yng Nghymru yn barod, a'r nod yw cynyddu elw busnesau, codi proffil trefi, gwella'r profiad parcio a gwella golwg y dref.

Mae'r Ardal Gwella Busnes - ynghyd â swydd rheolwr i'r fenter - yn cael eu hariannu trwy gyfrwng treth ar bob busnes sydd â gwerth ardrethol o dros £6,000.

Yng Nghaerfyrddin, y bwriad yw codi bron i £880,000 dros gyfnod o bum mlynedd.

'Egwyddor y peth yw e'

Mae nifer o fusnesau canol y dref wedi bod yn derbyn biliau ar gyfer gwaith y fenter dros yr wythnosau diwethaf, er nad ydyn nhw wedi medru agor ers tri mis oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.

Mae'r llythyrau yn cael eu hanfon yn enw Cyngor Sir Caerfyrddin a'r arian yn cael ei gasglu gan yr awdurdod, er nad yw'n rhan o redeg yr Ardal Gwella Busnes.

Mae rhai busnesau yn flin ar ôl cael nodyn atgoffa yn ystod y dyddiau diwethaf sydd yn bygwth achos llys os na fyddan nhw yn talu.

Disgrifiad o’r llun,

"Ni wedi tynnu at ein gilydd ac ni'n mynd i herio y llythyr a herio codi tâl," meddai Steffan Hughes

Fe agorodd Steffan Hughes fwyty Lolfa yng Nghaerfyrddin ym mis Tachwedd, fisoedd ar ôl y bleidlais i sefydlu Ardal Gwella Busnes.

Mae'n dweud ei fod ef a busnesau eraill yn ystyried cymryd camau cyfreithiol am nad ydyn nhw yn fodlon talu'r biliau ar sail egwyddor.

"Dydd Iau diwethaf fe ges i lythyr bygythiol iawn ei natur, yn bygwth ni gyda chwrt, os nag oedd yr anfoneb yn cael ei dalu o fewn 14 diwrnod," meddai.

"Dyw e ddim ambwyti'r arian rili, ond egwyddor y peth.

"Shwd mae rhaglen neu sefydliad sydd i fod yn cefnogi busnesau a chefnogi y dref, pan maen nhw'n gwybod mor anodd mae'r flwyddyn wedi bod ar fusnesau, yn gallu mynd ati i chaso arian?

"Dwi'n gwybod am ambell i fusnes sydd wedi talu fe ond dim ond trwy banig, achos yn naturiol maen nhw yn cael llythyr yn bygwth cwrt - mae fe yn mynd i ysgwyd dyn.

"Ni wedi tynnu at ein gilydd ac ni'n mynd i herio y llythyr a herio codi tâl. Mae gyda ni gyfreithiwr sydd yn barod i helpu ni ac yn cefnogi ni."

'Ymrwymiad cyfreithiol'

Dywedodd George Reid, rheolwr yr Ardal Gwella Busnes yng Nghaerfyrddin, ei fod e'n cydymdeimlo gyda busnesau ond bod yna ymrwymiad cyfreithiol bellach i gyfrannu.

"Rwy'n deall yn iawn. Mae gen i fusnes hefyd sydd i lawr 87%. Rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi eu teimladau," meddai.

"Ry'n ni yn cydymdeimlo ac yn deall ei bod nhw'n ei chael hi'n anodd talu, ond mae llawer o gefnogaeth ariannol wedi bod i fusnesau.

"Nid arian poced neu arian i dalu am wyliau yw'r grantiau hynny ond arian i dalu am gostau - ac mae'r Ardal Gwella Busnes - bellach yn rhan o'r costau hynny - yn ymrwymiad cyfreithiol."

Pan ofynnwyd i Mr Reid a fyddai busnesau yn wynebu achos llys pe na fydden nhw'n talu, dywedodd bod "rheidrwydd cyfreithiol ar y cyngor i gasglu'r arian" ond "doedd e ddim yn credu" y byddai'r cyngor yn dwyn achos yn erbyn pobl fyddai ddim yn talu, er nad oedd yn gallu "siarad ar ran y cyngor".

Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin y byddai camau cyfreithiol yn cael eu cymryd ar gais y cwmni sydd yn gyfrifol am yr Ardal Gwella Busnes yn unig.

Pynciau cysylltiedig