Dysgu gyrru: Rhwystredigaeth am ansicrwydd ailddechrau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dysgwr
Disgrifiad o’r llun,

Does dim dyddiadau eto pryd y bydd gwersi a phrofion yn cael ailddechrau yng Nghymru

Mae'r diwydiant dysgu gyrru wedi mynegi rhwystredigaeth am ddiffyg amserlen gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â phryd y bydd modd ailddechrau gwersi a phrofion gyrru.

Mae pasio eich prawf gyrru yn garreg filltir bwysig, yn enwedig i bobl ifanc neu i rai sy'n byw yng nghefn gwlad ac efallai yn fwy dibynnol ar geir.

Ond, fel cymaint o bethau eraill, mae'r gwersi a'r profion ar stop oherwydd Covid.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau brynhawn Gwener ei bod yn gobeithio rhoi caniatâd i wersi ailddechrau ar 12 Ebrill, a phrofion o 22 Ebrill.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sharon Roberts yn rhwystredig bod gwasanaethau sydd â mwy o gyswllt na gwersi gyrru yn cael ailagor

Dydy Sharon Roberts ddim wedi gallu rhoi gwersi gyrru ers mis Rhagfyr, ac mae sawl o'i disgyblion yn disgwyl i wneud eu prawf.

Gyda gwersi yn Lloegr yn cael ailddechrau ganol Ebrill, roedd hi'n rhwystredig nad oedd dyddiad wedi'i roi yng Nghymru nes ddydd Gwener.

"Dwi bach yn flin - aethon ni i lockdown cyn Lloegr, felly o'n i'n meddwl y bysan ni wedi gallu dechrau ar yr un adeg, os nad cyn nhw," meddai.

"'Da ni'n defnyddio PPE yn y car, mae o'n cael ei lanhau yn aml a 'da ni'n checkio tymheredd y pupils pan maen nhw'n dod am eu gwers.

"Alla i ddim gwneud mwy na hynny."

'Dio'm yn deg'

Mae Ms Roberts hefyd yn rhwystredig bod rhai gwasanaethau sydd â chyswllt uniongyrchol rhwng pobl yn cael ailagor, ond nad oes modd cynnal gwersi gyrru.

"Dwi'm yn gweld o'n deg achos mae llefydd trin gwallt ar agor, a dydyn ni ddim yn cyffwrdd y person sy'n gyrru'r car," meddai.

"Mae gennym ni ventilation efo'r ffenestri ar agor, mae'r car yn ofnadwy o lân, felly dwi'm yn meddwl bod o'n deg bo' nhw'n cael agor a ni ddim."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cynwal ap Myrddin yn poeni y bydd 'na restr aros hir am brawf gyrru pan fydd pethau'n ailddechrau

Pedair gwers mae Cynwal ap Myrddin wedi cael ers troi'n 17.

Roedd ganddo brawf wedi'i drefnu ar gyfer mis Ebrill ond mae'n poeni rŵan y bydd 'na restr aros hir pan fydd pethau'n ailgychwyn.

"Gan ein bod ni'n byw mewn ardal mor wledig, mae'r gallu i ddreifio yn hanfodol," meddai

"Faswn i'n licio i'r llywodraeth gyhoeddi rhyw fath o strategaeth am sut maen nhw'n bwriadu ailgynnau'r gwasanaeth - bod nhw'n rhoi rhyw syniad i ni o ran amser.

"Dio'm yn deg arna ni fel pobl ifanc bod ni'n byw mewn gobaith bod y prawf yn mynd i ddod, ac yna bod o'n cael ei ganslo funud ola'."