Cymeradwyo canolfan ganser newydd yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynlluniau i godi canolfan ganser newydd yng Nghaerdydd wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cymru.
Dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, y bydd y datblygiad newydd yn sicrhau y bydd cleifion yn parhau i gael "y gofal gorau posib am ddegawdau i ddod".
Roedd y cynlluniau wedi ennyn cryn wrthwynebiad gyda rhai protestwyr yn anfodlon bod y ganolfan newydd yn cael ei chodi ar ddarn o dir glas agored.
Ym mis Medi fe wnaeth 57 o arbenigwyr canser ddweud eu bod yn hynod bryderus am y cynlluniau gan ddadlau y dylai'r ganolfan newydd gael ei lleoli yn agos i ysbyty.
Roedd yna ddadleuon hefyd bod triniaethau canser angen amrywiol wasanaethau fel unedau llawdriniaeth a gofal dwys.
Bydd y ganolfan newydd yn darparu triniaeth arbenigol ac adnoddau ar gyfer dysgu, ymchwil a datblygu.
Wrth gyhoeddi'r cynllun ar y cyd â'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, dywedodd Mr Gething bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn craffu ar y cynlluniau yn fanwl ac am gyfnod hir.
"Mae Canolfan Ganser bresennol Felindre wedi darparu gwasanaeth eithriadol am ddegawdau," meddai.
"Mae'n le arbennig i'r bobl hynny sydd wedi bod angen cymorth angenrheidiol ar adegau anodd eu bywydau.
"Ond fel gyda phob adeilad mae yna amser pan mae'n rhaid i ni edrych tua'r dyfodol a sicrhau bod pobl yn cael y gofal gorau posib am ddegawdau i ddod."
Ychwanegodd bod disgwyl i'r ganolfan newydd agor ei drysau yn 2025.
Fe wnaeth Cyngor Caerdydd roi caniatâd cynllunio i'r adeilad yn 2017.
Dywedodd prif weithredwr Ymddiriedolaeth Prifysgol Felindre, Steve Ham, bod cael sêl bendith yn "foment bwysig i wasanaethau canser pobl de-ddwyrain Cymru".
"Ry'n ni am i'r ganolfan newydd fod yn flaenllaw o ran datblygiad cynaliadwy gan roi lle amlwg i Fil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ystod adeiladu, cynllunio a gweithredu'r ganolfan," meddai.
Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd y rhai sydd wedi bod yn gwrthwynebu'r cynlluniau ac yn ceisio diogelu'r tir o gwmpas eu bod yn "flin".
Mae pryderon clinigwyr wedi'u hanwybyddu, meddent, ac mae'r gymuned leol wedi'i "dedfrydu i bedair blynedd o waith adeiladu".
Ychwanegodd llefarydd: "Gyda chymaint o rywogaethau prin yn byw yn yr ardal fe fydd y datblygiad yn cael effaith andwyol ar fioamrywiaeth Caerdydd.
"Mae'r cyfan yn gwawdio unrhyw gyhoeddiad am argyfwng hinsawdd, Deddf yr Amgylchedd a'r Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2020