Ysbyty canser: Pryder am ddiogelwch cleifion

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty FelindreFfynhonnell y llun, Geograph/Mick Lobb
Disgrifiad o’r llun,

Safle presennol Ysbyty Felindre

Mae dau feddyg profiadol wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod nhw'n poeni am ddiogelwch cleifion canser os aiff y cynllun i godi ysbyty newydd Felindre ar gyrion Caerdydd yn ei flaen.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi yn fuan a fyddan nhw'n rhoi sêl bendith i'r cynllun.

Mae'r meddygon yn poeni'n benodol am yr amser mae'n ei gymryd i drosglwyddo cleifion sâl o ganolfan Felindre i gael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Wrth drosglwyddo cleifion mae'r gwasanaeth ambiwlans yn dynodi galwadau o ran difrifoldeb yn goch, oren a gwyrdd.

Y galwadau oren sydd yn poeni'r meddygon - maen nhw'n dweud nad yw Ysbyty Felindre yn rhoi digon o bwyslais ar eu difrifoldeb.

Beirniadaeth hallt

Mae dros 70 o gleifion y flwyddyn wedi cael eu trosglwyddo ar alwadau coch neu oren yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Doedd y meddygon ddim am siarad yn gyhoeddus gan eu bod nhw eisoes wedi wynebu beirniadaeth hallt am gwestiynu cynlluniau Felindre.

Disgrifiad o’r llun,

Bu dros 250 o bobl yn protestio'n erbyn y cynlluniau ym mis Mehefin

Maen nhw'n dadlau fod angen codi'r ganolfan ganser newydd ar safle ysbyty mawr ac mai dyna yw'r patrwm sy'n cael ei ffafrio erbyn hyn.

"Mae'r categori oren ar gyfer cleifion sy'n sâl iawn ac sydd angen gofal brys." meddai un ohonyn nhw.

"Nid galwadau routine yw'r rhain, does dim yn routine am gael trawiad neu waedlif neu strôc, dyw hynny ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl felly dwi'n meddwl eu bod nhw'n chwarae'r ffigyrau yma i lawr."

Dywedodd un arall: "Fedrwch chi ddim rhagweld pa gleifion sy'n mynd i ddirywio. Os ydach chi yn yr ysbyty efo canser rydach chi eisoes yn sâl.

"Fe all cleifion gael trawiad ar y galon, clot ar yr ysgyfaint, fe allan nhw syrthio'n anymwybodol, fe allan nhw gael sepsis ac mae hynny'n golygu dirywio'n gyflym iawn - felly mae'n rhaid cael yr arbenigedd yn y fan a'r lle i achub bywydau.

"Nid jyst barn bersonol ydi hyn. Dwi'n siarad ar ran 30 o feddygon yn Felindre, 57 o feddygon arwyddodd lythyr i'r Prif Weithredwr llynedd a 163 o feddygon ysgrifennodd at y gweinidog iechyd yn ddiweddar.

"Ry'n ni gyd yn poeni y bydd adeiladu uned ar ei phen ei hun ar y caeau yma, heb ofal dwys, heb ofal dibyniaeth uchel a phob dim arall sydd ei angen ar gleifion sâl yn risg mawr "

Diogelwch 'wrth wraidd popeth a wnawn'

Wrth ymateb i feirniadaeth am drosglwyddo cleifion mae Felindre wedi dweud nad ydyn nhw wedi gorfod paratoi adroddiad achos difrifol o ganlyniad i farwolaeth annisgwyl yno ers pum mlynedd.

Yn ôl llefarydd: "Mae Canolfan Ganser Felindre yn trin rhai o gleifion mwyaf bregus Cymru - mae eu diogelwch a'u gofal wrth wraidd popeth a wnawn ac ry'n ni'n gweithio gyda byrddau iechyd eraill i ddarparu'r gwasanaethau canser gorau posibl i bobl de ddwyrain Cymru.

"Mae'r angen am ganolfan ganser newydd yn ddiamwys. Ni all yr adeilad presennol gynnal gofal cleifion o ansawdd uchel am gyfnod amhenodol o ystyried oedran yr adeilad a'r cynnydd mewn achosion o ganser."

Mae ymddiriedolaeth Felindre hefyd yn cyfeirio at adroddiad annibynnol Nuffield sy'n nodi na fyddai adeiladu canolfan ganser newydd ar safle'r Ysbyty Athrofaol yn opsiwn am gryn amser a bod angen gweithredu nawr i wella'r gwasanaeth.

Bydd Llywodraeth Cymru'n ystyried cynllun busnes y ganolfan ganser newydd ac yn cyhoeddi ei phenderfyniad yr wythnos hon.