Undeb Rygbi Cymru yn beirniadu sylwadau anffafriol
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi beirniadu'r rhai sydd wedi bod yn rhoi sylwadau anffafriol am chwaraewyr ar y cyfryngau cymdeithasol wedi i Gymru fethu â sicrhau y Gamp Lawn yn erbyn y Ffrancwyr nos Sadwrn.
Roedd y negeseuon wedi'u targedu at Liam Williams a Taulupe Faletau wedi i'r ddau gael eu cosbi am droseddu ar ddiwedd y gêm.
Mewn datganiad dywedodd Undeb Rygbi Cymru: "Mae'r chwaraewyr yn falch o fod wedi cael cynrychioli eu gwlad - rhaid i unrhyw sylwadau sy'n eu beirniadu ddod i ben.
Nododd y datganiad ymhellach: "Er mwyn sicrhau unrhyw newid mae'r chwaraewyr am danlinellu faint o sylwadau sarhaus sy'n cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd. Ry'n yn gwerthfawrogi cefnogaeth ein dilynwyr ar y mater."
Fe wnaeth Cymru golli 32-30 yn erbyn Ffrainc ar ddiwedd gêm gyffrous a hynny tra'n chwarae gydag 13 o chwaraewyr wedi i Faletau ac Williams gael eu hel o'r cae o fewn munud i'w gilydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2021