Cefnu ar deganau plastig wedi ymgyrch merch o Wynedd

  • Cyhoeddwyd
Skye mewn siop yn dangos cylchgrawn gyda teganau plastigFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Skye fod nifer o gylchgronau plant yn dod gyda theganau nad yw'n bosib eu hailgylchu

Mae archfarchnad Waitrose wedi penderfynu na fydd yn gwerthu cylchgronau plant sydd â theganau plastig yn dilyn ymgyrch gan ferch 10 oed o Wynedd.

Dywedodd Waitrose bod teganau o'r fath yn aml yn cael eu taflu yn fuan, ac nad oes ffordd hawdd o'u hailgylchu.

Yn ôl yr archfarchnad cafodd y penderfyniad ei ysgogi gan Skye, wnaeth lansio ymgyrch i berswadio cyhoeddwyr i beidio â chynnwys teganau plastig gyda'u cylchgronau.

Dros yr wyth wythnos nesaf bydd Waitrose yn tynnu pob cylchgrawn sy'n cynnwys teganau tafladwy oddi ar ei silffoedd.

Maen nhw yn annog cyhoeddwyr i ddefnyddio deunyddiau mwy cynaliadwy i gymryd lle "plastig diangen".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrch Skye wedi denu cefnogaeth gwleidyddion, Surfers against Sewage a Kids Against Plastic

Yn gynharach y mis hwn fe lansiodd Skye ddeiseb ar ôl cael llond bol o dderbyn "sbwriel plastig rhad" gyda'i hoff gylchgrawn.

Roedd hi'n poeni bod y teganau'n creu ôl-troed carbon mawr ac yn mynd i safleoedd tirlenwi yn y pendraw.

Dywedodd Skye ei bod eisiau gweld y teganau'n cael eu tynnu'n gyfan gwbl, yn ogystal â gweld y cylchgronau'n cael eu gwneud o bapur - unai heb eu lapio neu wedi'u lapio mewn papur er mwyn lleihau deunydd pacio.

'Nhw sy'n etifeddu'r broblem'

Mae'r archfarchnad wedi ysgrifennu at gyhoeddwyr cylchgronau yn dweud bod ganddyn nhw wyth wythnos i beidio defnyddio teganau plastig neu na fyddan nhw'n cael eu gwerthu yn siopau'r cwmni.

Dywedodd cyfarwyddwr cynaliadwyedd Waitrose, Marija Rompani: Mae llawer yn y genhedlaeth iau wir yn poeni am y blaned a nhw ydy'r rhai sy'n etifeddu'r broblem o lygredd plastig.

"Rydyn ni'n annog cyhoeddwyr a chwmnïau eraill i ddilyn ein hesiampl a chael gwared â'r plastig diangen sy'n dod gyda nifer o gylchgronau plant."

Pynciau cysylltiedig