Bocsiwr yn cyfaddef taro dyn ifanc cyn iddo farw

  • Cyhoeddwyd
Dean Harry SkillinFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dean Skillin wedi digwyddiad y tu allan i Westy'r Waverley, Bangor

Clywodd llys fod bocsiwr brwd wedi taro dyn 20 oed mor galed fel ei fod, i bob pwrpas, wedi marw cyn iddo daro'r llawr.

Mae Brandon Sillence, 24, o Doronnen, Bangor, yn gwadu llofruddio Dean Skillin fis Medi 2020, ond mae'n cyfaddef ei ddynladdiad.

Wrth agor yr achos yn Llys y Goron Caernarfon, dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, John Philpotts, fod Mr Skillin, o Gaernarfon, a'i ffrindiau wedi gadael Gwesty Waverley ym Mangor ar amser cau ar 19 Medi.

Dywedodd Mr Philpotts wrth y rheithgor fod Brandon Sillence hefyd wedi bod yn yr un gwesty a'i fod, heb gael ei bryfocio ac yn ddi-rybudd, wedi lladd Dean Skillin.

Dywedodd y cwnsler fod Mr Sillence yn flin ac yn ymosodol, a'i fod wedi rhoi dwrn i Mr Skillin a'i gefnder Taylor Lock.

Cafodd yr ergyd ei dal ar gamerâu cylch cyfyng, ac fe gafodd ei disgrifio i'r llys gan heddwas fel un gyda sŵn "ffiaidd".

Taro dau gefnder 'fel rhybudd'

Dywedodd yr erlynydd fod Mr Skillin wedi ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd, Bangor, ond ei fod wedi marw'r bore wedyn.

"Roedd i bob pwrpas wedi marw y tu allan i Westy'r Waverley," meddai Mr Phillpots, "roedd yn farw cyn iddo daro'r llawr."

Roedd gwaelod penglog Mr Skillin wedi ei dorri, cafodd gwaedlif trychinebus, gan adael ei ymennydd "wedi marw".

Cafodd Brandon Sillence ei arestio yn y fan a'r lle a'i holi gan yr heddlu.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd yr Orsaf ym Mangor nos Sadwrn 19 Medi

Dywedodd Mr Phillpotts wrth y llys fod y diffynnydd wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi taro Mr Skillin a Taylor Lock unwaith yr un oherwydd ei fod yn ofni eu bod ar fin ymosod ar ffrind iddo.

"Roedd wedi eu 'taro' fel rhybudd," meddai wrth y rheithgor, "ac nid oedd wedi bwriadu achosi unrhyw niwed difrifol i'r naill na'r llall."

Aeth y bargyfreithiwr yn ei flaen i ddweud: "Fe ddylech chi wybod bod Brandon Sillence wedi pledio'n euog i ddynladdiad. Mae hefyd wedi pledio'n euog i ymosod ar Taylor Lock gan achosi niwed corfforol gwirioneddol iddo.

"Y mater (o dan sylw) yw bwriad Brandon Sillence pan darodd yr ergyd angheuol honno."

Dywedodd fod Sillence yn ymddangos yn ymosodol a bod ganddo ddiddordeb mawr mewn bocsio.

"Roedd yn gwybod y difrod y gallai ei ddyrnod ei achosi," ychwanegodd yr erlynydd.

"Fe gyflwynodd ei bŵer dyrnu i effaith ddinistriol a thrasig ar 19 Medi, gan ddod â bywyd Dean Skillin i ben yn y broses."

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig