Dynes oedrannus wedi'i chlymu yn ei chartref ym Môn
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio wedi i ddynes oedrannus gael ei chlymu yn ei chartref gan ddau ddyn a oedd yn smalio bod yn blismyn.
Dywed plismyn bod y dynion wedi gadael gydag arian a sêff fawr fetel wedi iddyn nhw fynd i dŷ'r ddynes yn Rhosneigr ar Ynys Môn ddydd Llun.
Fe ddigwyddodd y lladrad oddeutu 19:30 yn ardal Ffordd yr Orsaf.
"Roedd o'n ddigwyddiad brawychus i'r dioddefwr," medd y Ditectif Arolygydd Andy Gibson.
"Ry'n yn awyddus i glywed gan drigolion eraill yn yr ardal sydd o bosib wedi cael pobl ddieithr yn galw yn eu cartrefi neu gan rai sydd wedi gweld cerbydau amheus yn yr ardal.
"Ry'n yn apelio hefyd ar i unrhyw un a oedd yn gyrru drwy Rosneigr yr adeg hon i gysylltu - yn enwedig rhai sydd â lluniau dashcam.
"Mae gennym dîm penodol yn gweithio ar yr ymchwiliad."