Cymru'n dathlu llwyddiant ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad

  • Cyhoeddwyd
Wayne PivacFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cyntaf i Wayne Pivac ennill y Chwe Gwlad, yn ei ail flwyddyn wrth y llyw gyda Chymru

Mae tîm rygbi Cymru yn dathlu ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi i Ffrainc golli i'r Alban nos Wener.

Dyma'r chweched tro i Gymru ennill y bencampwriaeth ers 2000, a bydd yn gysur i Wayne Pivac a'i garfan wedi iddyn nhw fethu â sicrhau'r Gamp Lawn y penwythnos diwethaf.

Wedi i'r Ffrancwyr drechu Cymru o 32-30 yn eiliadau olaf y gêm yr wythnos ddiwethaf, roedd tynged y bencampwriaeth yn dibynnu ar ganlyniad yr unig gêm oedd eto i'w chwarae.

Roedd y gêm rhwng y Ffrancwyr a'r Alban yn gynharach yn y bencampwriaeth wedi cael ei gohirio ar ôl i nifer o chwaraewyr gael profion positif am Covid-19.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Duhan van der Merwe yn y munud olaf i selio'r fuddugoliaeth i'r Alban ym Mharis

Er mwyn atal Cymru rhag ennill y Chwe Gwlad roedd yn rhaid i Ffrainc drechu'r Alban gyda phwynt bonws, a'u trechu o dros 21 pwynt.

Ond Yr Alban oedd yn fuddugol o 23-27 yn y Stade de France nos Wener, gan olygu bod Cymru yn parhau ar frig y tabl gyda mantais o bedwar pwynt dros y Ffrancwyr.

Llwyddodd yr Albanwyr i ennill oddi cartref yn Ffrainc am y tro cyntaf ers 1999, a hynny er gwaethaf cerdyn coch i'r maswr Finn Russell.

Roedd Cymru wedi llwyddo i drechu Iwerddon, Yr Alban, Lloegr a'r Eidal cyn y golled ym Mharis - gan sicrhau'r Goron Driphlyg hefyd.

Iwerddon ddaeth yn drydydd yn y bencampwriaeth, gyda'r Alban yn bedwerydd, Lloegr yn bumed a'r Eidal yn olaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Cymru eisoes wedi ennill y Goron Driphlyg eleni ar ôl trechu Iwerddon, Yr Alban a Lloegr

Dywedodd Pivac wedi'r gêm nos Wener bod Cymru "wrth ein boddau" gyda'r bencampwriaeth.

"Mae hi'n amser cyffrous i ni oll," meddai.

"Mae hi wedi bod yn bencampwriaeth anhygoel. O safbwynt Cymru rydyn ni wrth ein boddau - yr unig siom ydy nad oedden ni wedi llwyddo i'w wneud fel grŵp yr wythnos ddiwethaf.

"Ond dydyn ni ddim eisiau siarad gormod am hynny - rydyn ni wedi gorffen ar frig y tabl ac wedi ennill y bencampwriaeth."