Dim deddfu ar hysbysebu gwleidyddol ar-lein yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Senedd CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhy hwyr i'r Senedd ddiweddaru cyfreithiau etholiadol cyn yr etholiad ar 6 Mai

Gallai pleidleiswyr weld hysbysebion gwleidyddol ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod ymgyrch etholiad y Senedd heb wybod pwy sy'n gyfrifol amdanyn nhw.

Rhaid i daflenni a hysbysebion sydd wedi eu hargraffu nodi pwy sydd wedi eu cynhyrchu a thalu amdanynt.

Mae ymgyrchwyr yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi "colli cyfle" wrth beidio diweddaru cyfreithiau etholiadol a fyddai'n golygu bod rheolau hysbysebu print yn berthnasol i hysbysebu digidol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod am weithio gyda llywodraethau eraill i greu rheoliadau newydd.

Rhy hwyr i newid y gyfraith

Bydd argraffnodau digidol (digital imprints), sy'n dangos pwy sy'n gyfrifol am hysbysebion gwleidyddol, yn orfodol ar gyfer etholiadau cyffredinol San Steffan dan gynlluniau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.

Byddai hynny'n golygu y gall pleidleiswyr weld pwy sy'n ceisio dylanwadu arnynt ac yn helpu cyrff goruchwylio i gadw golwg ar wariant ymgyrchu.

Er bod gweinidogion yng Nghaerdydd yn cefnogi'r syniad hefyd, mae'n rhy hwyr i'r Senedd newid y gyfraith cyn yr etholiad ar 6 Mai.

Mae gwariant hysbysebu ar-lein wedi codi'n sylweddol yn etholiadau Prydain ers 2010, a chredir ei fod wedi cyfrif am fwy na hanner gwariant ymgyrch etholiad cyffredinol 2019.

Mae rhai yn dweud y bydd y cyfryngau cymdeithasol hyd yn oed yn bwysicach eleni gan fod cyfyngiadau coronafeirws wedi gwneud hi'n anodd canfasio'n draddodiadol.

Jess Blair
Disgrifiad o’r llun,

Mae deddfwriaeth Yr Alban yn rhagori ar yr hyn sy'n bodoli yng Nghymru, medd Jess Blair

Dywedodd Jess Blair, cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru bod Llywodraeth Cymru wedi colli cyfle i ddeddfu, er bod argraffnodau digidol yn orfodol yn Yr Alban lle mae etholiadau datganoledig yn digwydd ar yr un diwrnod.

"Dyw'r ddeddfwriaeth [yn Yr Alban] ddim yn berffaith ond mae'n llawer gwell na'r hyn sydd gennym yng Nghymru," meddai.

Dywedodd na ddylai Llywodraeth Cymru aros am ddeddfwriaeth gan Lywodraeth y DU.

"Ddylech chi ddim bod yn aros am y person arafaf yn y ras," meddai.

"Dylech fod yn ceisio ennill y ras honno a sicrhau gwell democratiaeth a gwell tryloywder yn ein hetholiadau."

Cyfryngau cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Facebook yn dweud bod rhaid i hysbysebion gwleidyddol ar eu platfform nhw gyhoeddi pwy sy'n gyfrifol amdano

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod "wedi ymrwymo i gynnal etholiadau teg a thryloyw".

Ychwanegodd llefarydd nad oedd modd deddfu mewn pryd ar gyfer etholiad mis Mai ond "byddwn yn gweithio'n agos gyda gweinyddiaethau eraill y DU i sicrhau bod cyfundrefn gadarn a thryloyw yn y dyfodol".

Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd ei deddfwriaeth ar argraffnodau digidol yn "cynyddu tryloywder" ac yn "sicrhau mwy o graffu".

Ychwanegodd y Gweinidog Gwladol yn Swyddfa'r Cabinet, Chloe Smith, ei fod yn fater "cymhleth", gan ychwanegu bod angen osgoi cyfyngu ar y rhyddid i lefaru na gorfodi ymgyrchwyr i gyhoeddi eu cyfeiriadau cartref.

Dywedodd Plaid Cymru y bydden nhw yn "cefnogi unrhyw ddatblygiad fyddai'n gwneud ein etholidau yn fwy agored a thryloyw".

Ychwanegodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod nhw yn cefnogi sefydlu cyfraith o'r fath, tra bod arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds hefyd yn galw am "dryloywder a thegwch" gydag ymgyrchu ar-lein.

Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn "siomedig" na chafod y rheolau eu newid yng Nghymru erbyn etholiad y Senedd.

Dywedodd Facebook bod yn rhaid i unrhyw hysbyseb gwleidyddol ar eu platfform nhw gyhoeddi pwy sy'n gyfrifol amdano.