Rhyddhau 1,000 o wystrys i farina Conwy
- Cyhoeddwyd
Bydd dros 1,000 o wystrys yn cael eu rhyddhau i farina Conwy ddydd Mercher.
Mae'r pysgod cregyn yn cael eu rhoi mewn cewyll meithrin arbennig o dan y llwybrau cerdded pren.
Yn saff rhag ysglyfaethwyr, y gobaith yw y byddan nhw'n cynhyrchu digon o larfa wystrys i ail-stocio aber Conwy a'r dyfroedd arfordirol rhwng y fan honno ac Ynys Môn.
Mae'r elusen gadwraeth ZSL yn trefnu prosiect Conwy, ynghyd â dau gynllun wystrys tebyg yn y môr yn y Firth of Clyde yn Yr Alban, ac ardal Tyne a Wear yng ngogledd Lloegr.
Dywedodd Celine Gamble, Rheolwr Prosiect Wystrys Gwyllt yn ZSL: "Mae'r rhyddhau yng Nghonwy yn rhan o brosiect adfer uchelgeisiol i ddod â'r 'archarwyr cefnfor' hyn yn ôl o ddifodiant.
"Er gwaethaf eu maint bach, mae wystrys yn gallu hidlo 200 litr o ddŵr y dydd.
"Yn ystod y misoedd nesaf bydd yr wystrys yn dechrau cynhyrchu'r genhedlaeth nesaf o'r boblogaeth wystrys, trwy ryddhau larfa a fydd wedyn yn cael ei wneud gan hydrodynameg y dŵr ac yn setlo ar wely'r môr."
'Bron â diflannu'
Dywed gwyddonwyr fod nifer fawr o wystrys brodorol yn arfer cael eu darganfod yn yr ardal o amgylch Conwy.
Ond dros y 200 mlynedd diwethaf, maen nhw bron â diflannu oherwydd gor-bysgota, newidiadau yn ansawdd y dŵr, ac afiechyd.
Ychwanegodd Celine Gamble: "Ar un adeg roedd gan Gymru bysgodfa doreithiog ar gyfer yr wystrys brodorol a oedd yn ffynhonnell fwyd hanfodol i'r cymunedau arfordirol lleol a chyfraniad i economi Cymru.
"Pysgodfa sylweddol y Mwmbwls neu 'Oystermouth' oedd y mwyaf yng Nghymru a gefnogodd 400 o bysgotwyr ar draws 188 o gychod.
"Yn agos at Gonwy, roedd gwelyau wystrys brodorol cynhyrchiol hefyd yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif yng Nghulfor Menai ger Caernarfon a Bangor, oddi ar Ynys Seiriol ac o amgylch Ynys Môn yn Rhoscolyn ac Ynys Llanddwyn.
"Yn ei anterth yng nghanol y 1800au, nododd cychod wystrys Cymru eu bod yn casglu 8,000 o wystrys bob dydd, ond hyd at 15,000-20,000 wystrys mewn rhai ardaloedd."
Mae prosiect tebyg hefyd yn cael ei redeg gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn yr aber o amgylch Aberdaugleddau.
Dywedodd Ben Wray, Rheolwr Prosiect ac ecolegydd morol yn CNC bod "adfer wystrys brodorol a chynefin cysylltiedig yng Nghymru yn hynod bwysig".
"Mae'n gwella cyflwr yr ardal gyfagos ac mae'n wych i'r amgylchedd ehangach sydd o fudd i bobl hefyd," meddai.
"Hyd yn hyn, rydym wedi cyflwyno tua 25,000 o wystrys ifanc yn yr aber a byddwn yn eu monitro.
"Os yw'r prosiect yn llwyddiannus, gellid cyflwyno wystrys ar raddfa fwy ac ar draws safleoedd ychwanegol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2020