Chwe Gwlad: Dwy i ennill cap cyntaf yn erbyn Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Cymru v FfraincFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Cymru eu trechu o 0-50 gan Ffrainc yn ystod ymgyrch Chwe Gwlad 2020

Bydd y prop Donna Rosa a'r mewnwr Jess Roberts yn ennill eu capiau cyntaf dros Gymru wrth i dîm y merched ddechrau eu hymgyrch Chwe Gwlad yn Ffrainc nos Sadwrn.

Dyma hefyd fydd gêm gyntaf y prif hyfforddwr Warren Abrahams wrth y llyw.

Bydd y clo Teleri Wyn Davies a'r cefnwr Robyn Wilkins yn dechrau eu gemau cyntaf ar lefel rhyngwladol, ac fe allai mewnwr arall - Megan Davies - ennill ei chap cyntaf oddi ar y fainc.

Bydd y gic gyntaf yn y Stade de la Rabine yn Vannes am 20:00 nos Sadwrn.

Mewn ymgyrch Chwe Gwlad fyrrach na'r arfer, bydd Cymru'n herio Iwerddon ar 10 Ebrill cyn cael un gêm olaf ar 24 Ebrill yn erbyn tîm sydd eto i'w benderfynu.

Tîm Cymru

Robyn Wilkins; Lisa Neumann, Hannah Jones, Kerin Lake, Jasmine Joyce; Elinor Snowsill, Jess Roberts; Caryl Thomas, Kelsey Jones, Donna Rose, Gwen Crabb, Teleri Wyn Davies, Georgia Evans, Manon Johnes, Siwan Lillicrap (c).

Eilyddion: Robyn Lock, Cara Hope, Cerys Hale, Bethan Dainton, Natalia John, Megan Davies, Gemma Rowland, Courtney Keight.