Neges hiliol ar-lein at drydydd chwaraewr Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Jamal LoweFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe wnaeth ymosodwr Abertawe, Jamal Lowe dderbyn neges hiliol ar-lein wedi i'w dîm golli yn erbyn Birmingham yn y Bencampwriaeth nos Wener.

Cyhoeddodd Lowe y neges sarhaus ar ei dudalen Instagram, gan ychwanegu'r ymateb "mae yna dwpsod gwirioneddol o gwmpas".

Dywedodd Facebook, sy'n berchen ar Instagram, wrth adran chwaraeon BBC Cymru eu bod wedi dileu cyfri'r sawl a ysgrifennodd y neges am dorri rheolau'r cyfrwng.

Lowe yw'r trydydd chwaraewr o'r clwb ers mis Chwefror i fod yn destun camdriniaeth hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cafodd Yan Dhanda brofiad tebyg wedi i'r Elyrch gael eu curo gan Manchester City, ac fe gafodd Ben Cabango ei dargedu tra ar ddyletswydd gyda charfan Cymru.

'Tristáu a dychryn'

Yn dilyn y digwyddiadau hynny, fe alwodd y clwb ar gwmnïau'r cyfryngau cymdeithasol i wneud mwy i fynd i'r afael â chamdriniaeth ar-lein.

Dywed Abertawe eu bod "unwaith eto'n tristáu ac yn dychryn" wedi'r neges ddiweddaraf at Lowe.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Jamal Lowe yn chwarae yn erbyn Birmingham City nos Wener

"Dyma'r trydydd tro mewn saith wythnos ble mae un o'n chwaraewyr wedi bod yn destun y fath negeseuon ffiaidd," meddai llefarydd.

"Rydym yn parhau i alw ar holl gwmnïau'r cyfryngau cymdeithasol i fynd ymhellach i gael gwared ar y lefel ofnadwy yma o ymddygiad ar eu platfformau.

"Mae gan Jamal gefnogaeth lawn, ddiwyro pawb yn y clwb."

Dywedodd Facebook eu bod yn "ymroddgar i wneud mwy" wedi'r negeseuon at Cabango a'i gyd-chwaraewr Cymru, Rabbi Matondo ddiwedd Mawrth.

Mewn ymateb i'r neges ddiweddaraf at Lowe, dywedodd Facebook nad yw'n caniatáu ymosodiadau ar bobl ar sail hil, crefydd, cenedligrwydd a rhywioledd.